Gwesty Carreg Môn (Llun o wefan y gwesty)
Mae Gwesty Carreg Môn wedi dweud na fyddwn nhw’n newid dim ar eu polisi iaith, yn dilyn protest gan Gymdeithas yr Iaith ddoe.

Mae staff y gwesty wedi anfon llythyr ar y cyd at Gymdeithas yr Iaith a’r wasg yn dweud eu bod nhw’n cefnogi’r rheolwraig Ruth Hogan i’r carn.

“Roedd tua saith aelod o’r Gymdeithas wedi cyrraedd er mwyn rhoi llythyr i Reolwr Cyffredinol y Gwesty ddoe,” meddai Ashley Redfern-Williams.

“Yna fe wnaethon ni roi llythyr iddyn nhw oedd wedi ei arwyddo gan bob aelod staff yn y gwesty ac eithrio un,” meddai.

Dywedodd nad oedd cais y Gymdeithas i godi gwaharddiad ar yr iaith yn gwneud synnwyr, gan nad oedd gwaharddiad o’r fath yn bodoli yn y lle cyntaf.

“Rydyn ni’n egluro yn y llythyr nad oedd yna waharddiad iaith. Y rheolwyr oedd wedi gofyn i staff beidio â siarad Cymraeg lle mae’r bwydydd yn mynd i’r gegin, a gyda’r prif gogydd, fel bod pawb yn deall ei gilydd,” meddai Ashley Redfern-Williams.

“Dw i’n falch iawn o’r tîm am ysgrifennu’r llythyr. Rydyn ni’n flin iawn bod camddealltwriaeth wedi cael cymaint o sylw.

Cadarnhaodd y Rheolwraig, Ruth Hogan, wrth Golwg360 na fydd y gwesty yn newid eu polisi iaith o ganlyniad i’r brotest ddoe.

Y llythyr

Yn y llythyr mae staff y gwesty yn dweud eu bod nhw “eisiau i bawb wybod nad ydi’r Gwesty wedi ein hatal ni rhag siarad Cymraeg yn y gweithle”.

“Pe bai hynny wedi digwydd fe fydden ni wedi gwrthod a chwilio am waith yn rhywle arall.

“Dim ond dau funud ar y mwyaf ydan ni’n ei dreulio yn y gegin. Pan mae’n brysur iawn, mae cynnal sgwrs mewn unrhyw iaith yno bron yn amhosibl.

“Fe dderbyniodd pob aelod o’r tîm y neges hon ac roedden ni’n fwy na hapus gyda’r eglurhad.

“Mae barn un aelod anfodlon wedi’i ddefnyddio er mwyn troi hyn yn stori yn y wasg.

“Rydyn ni eisiau i’r cyhoedd wybod ein bod ni’n cefnogi’r (Rheolwraig) Ruth Hogan a’r (Prif Gogydd) Bob Marshall yn llwyr. Fe fyddwn ni’n brwydro ochr yn ochr â nhw er mwyn clirio’r llanast y mae’r wasg wedi ei greu.”