Chris Bryant
Mae Aelod Seneddol y Rhondda, Chris Bryant, wedi torri ei goes yn ystod gêm rygbi elusennol.

Dioddefodd y cyn-weinidog yr anaf wrth chwarae yn Twickenham ddoe er mwyn codi arian at Ymddiriedolaeth Ffibrosis y Bledren.

Torrwyd y goes pan gafodd ei daclo gan ddau chwaraewr o ddau gyfeiriad gwahanol.

Roedd yr Aelod Seneddol 49 oed yn meddwl ei fod wedi rhwygo ligament, ond yn ystod ymweliad ag ysbyty newydd Llwynypia heddiw cafodd wybod ei fod wedi torri ei goes.

Dywedodd ei fod wedi gobeithio gallu chwarae rhan yn ymgyrch Etholiadau’r Cynulliad ar 5 Mai.

“Bydd rhaid i fi gyfrannu ar fy eistedd o hyn ymlaen!” meddai ar Twitter. “Canfasio dros y ffôn amdani!”

Mae wedi bod yn Aelod Seneddol ers 2001 ac wedi rhedeg tri marathon er mwyn codi arian at elusennau.