Stwidio Barcud
Mae cais cynllunio wedi’i gyflwyno i droi cyn stiwdio deledu enwog yng Nghaernarfon yn ganolfan ddringo dan do.

Mae Steve Mayers o Ganolfan Ddringo Beacon, ger Waunfawr, wedi cyflwyno cais cynllunio er mwyn newid defnydd cyn stwidio deledu Barcud ar Ystâd Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon.

Y nod yw addasu’r adeilad oedd yn cael ei ddefnyddio i ffilmio rhaglenni teledu yn ganolfan ddringo dan do fydd yn cynnwys wal ddringo a chaffi.

Mae Canolfan Ddringo Beacon wedi bod yn defnyddio hen orsaf drosglwyddo cwmni Marconi, yn Ceunant, ers bron i 17 mlynedd.

Ond maen nhw bellach yn teimlo nad yw’r safle’n addas oherwydd fod y “wal ddringo wedi dyddio, a does dim mynediad priodol ar gyfer pobol anabl”.

Fe gaeodd cwmni Barcud yng Nghaernarfon gan golli 35 o swyddi’r llynedd. Mae’r stwdio yn cynnwys gwagle mawr ar gyfer ffilmio rhaglenni teledu.

Mae disgwyl penderfyniad ar y cais cynllunio ryw ben fis nesaf.

‘Adeilad yw Barcud’

“Mae’n well gen i weld adeilad Barcud yn cael ei ddefnyddio yn hytrach na bod chwyn yn tyfu yno,” meddai Iestyn Garlick, Cadeirydd Teledwyr Annibynol Cymru a chyfarwyddwr cwmni Antena wrth Golwg360.

“Mae’n well gen i hefyd ei fod o’n ganolfan ddringo nag yn warws i gadw carpedi. Rydw i’n gallu gweld stwidio Barcud drwy’r ffenestr – ac mae’n drist ei weld yn wag.

“Ond y gwir amdani ydi mai adeilad yw stwdio Barcud. Lle i gadw adnoddau oedd o – yr offer a’r talent.

“Mae colli cwmni Barcud wedi bod yn ergyd sylweddol i’r gogledd ac mae pobl leol sydd wedi cefnogi’r fenter wedi colli miloedd o bunnoedd. Dyna’r tristwch mawr.

“Ond erbyn y diwedd doedd gan Barcud ddim yr arian i fuddsoddi mewn teledu manylder uwch ac felly wedi syrthio ar ei hol hi.

“Yr unig werth i’r lle erbyn y diwedd oedd y dalent oedd yn gweithio yno a’r gofod. Roedd y rhan fwyaf o’r offer yn hen.”

Dywedodd fod cwmni cynhyrchu y gogledd, gan gynnwys Antena, wedi gorfod dod o hyd i lefydd eraill i wneud eu gwaith ffilmio.

“Mae Antena wedi gorfod creu ei stiwdios ei hun ac mae Rondo wedi gwneud rhywbeth tebyg,” meddai.

“Doedd dim pwrpas mynd i Gaerdydd – mae ein hadnoddau ni i gyd yn y gogledd.”

‘Ardderchog’

Dywedodd y cynghorydd Huw Edwards, Maer Tref Caernarfon, ei fod yn “ardderchog” clywed y byddai cwmni yn gwneud defnydd o adeilad Barcud.

“Mae’n drist meddwl bod Barcud wedi mynd. Ond fe fydd cael cwmni newydd yno yn help ac o fudd i bobl ifanc y dref,” meddai.

Dywedodd cynghorydd tref ward Peblig, Anita Kirk, y byddai cael canolfan ddringo yno yn “gwneud lles i’r dref”.

“Chwaraeon yw’r ffasiwn rŵan. Mae’n well na swyddfeydd,” meddai.

“Dydw i ddim yn meddwl fod yna lawer o waith ar ôl ym myd teledu a dweud y gwir. Mae popeth wedi mynd i Gaerdydd.

“Os nad oedd Barcud yn gallu ymdopi – pwy fydd?”