Dros yr wythnosau nesaf bydd Catrin Haf Jones yn cymryd cipolwg ar y prif seddi i’w gwylio ar 5 Mai. Nesaf mae Llanelli, lle mae Plaid Cymru yn gobeithio dal eu tir…

Yr Etholaeth

Ar bapur mae hon yn sedd saff i Helen Mary Jones ar ôl iddi ennill o bron i bedair mil o fwyafrif yn 2007.

Ond cadwodd y Blaid Lafur y sedd yma yn yr Etholiad Cyffredinol y llynedd ac fe fydd eu hymgeisydd Keith Davies yn gobeithio y bydd y cynnydd yn eu poblogrwydd ar draws Cymru yn ddigon i ail-ennill y sedd yn y Cynulliad hefyd.

Mae Helen Mary Jones wedi colli’r sedd yma i’r Blaid Lafur o’r blaen, o 21 pleidlais yn 2003, ar ôl ei chipio 668 pleidlais yn 1999.

Mae yna gymhlethdod pellach i Blaid Cymru eleni, sef ymgeisydd annibynnol sydd wedi cynrychioli Plaid Cymru yn y gorffennol.

Cafodd y cynghorydd sir Sian Caiach ei gwahardd rhag cynrychioli’r Blaid yn 2009 ac fe fydd yn sefyll yn yr etholiad eleni dan faner ‘Rhoi Llanelli’n Gyntaf’.

Ymysg yr ymgeiswyr eraill mae Cheryl Philpott o’r Democratiaid Rhyddfrydol, sy’n gynghorydd yn ardal Sgeti, Abertawe, ac Andrew Morgan ar ran y Ceidwadwyr, sy’n frodor o Lanelli.

Mae etholaeth Llanelli yn ymestyn o’r Hendy yn y dwyrain, ar draws yr arfordir at Gydweli, i fyny trwy Gwm Gwendraeth at y Tymbl a draw at Dycroes.

Helen Mary Jones – Plaid Cymru

Mae Helen Mary Jones yn wleidydd uchel ei pharch yn Llanelli yn ogystal â Bae Caerdydd, ac yn gyn enillydd gwobr ‘AC y Flwyddyn’ Blwyddlyfr Cymru.

Dywedodd wrth Golwg 360 ei bod hi’n gobeithio y bydd hynny, a’r ffaith mai hi yw deiliad y sedd, yn ddigon i sicrhau na fydd hi’n ail-fyw profiad 2003.

Ond ychwanegodd Helen Mary Jones ei bod hi’n teimlo nad oedd ymgyrchwyr y Blaid Lafur wedi bod yn gwbwl onest â’r etholwyr eleni.

“Rydw i’n eithaf siomedig â’r modd y mae Llafur wedi cynnal eu hymgyrch yn yr etholiad yma,” meddai Helen Mary Jones.

Mae’n cyhuddo ei gwrthwynebydd, Keith Davies, o ledaenu’r neges ar draws Llanelli fod Plaid Cymru yn gobeithio clymbleidio â’r Ceidwadwyr yn y Cynulliad wedi etholiad 5 Mai.

“Mae unrhyw un sy’n dweud fy mod i’n bwriadu clymbleidio â’r Torïaid yn siarad nonsens,” meddai.

“Maen nhw’n trin yr etholiad yma fel ryw fath o etholiadau canol tymor rhwng etholaethau San Steffan,” meddai, “yn hytrach nag ymgyrch sy’n rhoi’r flaenoriaeth i Gymru.”

Ond dywedodd ymgeisydd Plaid nad oedd hi’n credu fod y Blaid Lafur yn fygythiad iddi eleni.

“Rydw i’n gwybod bod swing mawr tuag at Lafur yn genedlaethol,” meddai, “ond dydyn ni ddim wedi gweld hynny ar stepen y drws – er, ’dw i’n sylweddoli nad yw hynny’n fodd soffistigedig iawn o fesur cefnogaeth!”

Dywedodd Helen Mary Jones ei bod hi’n “synnu cymaint o bobol sy’n dal yn grac gyda’r Blaid Lafur am bethau fel Irac a’r economi”.

Ond y prif bynciau trafod yn lleol, yn ôl ymgeisydd Plaid, yw swyddi, dyfodol gwasanaethau iechyd, a chynllunio a gor-ddatblygu yn lleol.

Keith Davies – Llafur

Mae ail-ennill etholaeth Llanelli yn “hynod bwysig” i’r blaid yn yr etholiad eleni, yn ôl yr ymgeisydd Keith Davies.

Mae’r sedd yn rhan annatod o gynllun y Blaid Lafur i sicrhau mwyafrif clir yn y Cynulliad ar 5 Mai, fel nad oes rhaid mynd i glymblaid a “chyfaddawdu ar ein polisïau”.

Dywedodd fod yr ymgyrch “yn mynd yn weddol dda” i Lafur yn Llanelli. “Rydw i’n hyderus y bydd y canlyniad yn agos iawn, iawn fan hyn.”

Roedd hwb i’r blaid ddoe wrth i arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, alw draw i ddangos ei gefnogaeth.

Wfftiodd dadl Helan Mary Jones nad oedden nhw’n canolbwyntio ar y Cynulliad, gan ddweud fod gwleidyddiaeth Brydeinig yr un mor bwysig â materion lleol Llanelli eleni.

“Y mater sy’n poeni pobol leol yw’r ffaith fod y Ceidwadwyr yn Llundain wedi dechrau gwneud y toriadau ‘ma,” meddai.

Dywedodd Keith Davies ei fod yn cael ymateb ar lawr gwlad wrth awgrymu y bydd Plaid Cymru yn ystyried mynd i glymblaid â’r Ceidwadwyr.

“Pan dw i’n dweud ’na wrth bobol,” meddai, “chi’n gallu gweld pobol yn ail-feddwl.”

Mae’r cyn-Gyfarwyddwr Addysg yn hyderus y gall ei blaid gyflawni’r gamp ddwbl eleni, wrth gipio sedd Llanelli, ac ennill mwyafrif yn y Cynulliad.

“Os fydd yr haul mas, fe fydd ein pleidleiswyr ni mas,” meddai, wrth ymgyrchu ar brynhawn braf yn Llanelli.

Canlyniad Etholiad 2007

Helen Mary Jones Plaid Cymru 13,839 50.1%
Catherine Thomas Llafur 9,955 36.1%
Andrew Morgan Ceidwadwyr 2,757 10.0%
Jeremy Townsend Democratiaid Rhyddfrydol 1,051 3.8%

Ymgeiswyr Llanelli Etholiad 2011

Ceiwadwyr Andrew Morgan
Democratiaid Rhyddfrydol Cheryl Philpott
Llafur Keith Davies
Plaid Cymru Helen Mary Jones
Rhoi Llanelli’n Gyntaf Sian Caiach