Mae tad, mam-gu a dau o blant maeth wedi marw ar ôl i’w car blymio i gronfa ddŵr ym Mhowys.

Goroesodd y fam oedd yn gyrru’r Peugeot 807 ond fe fu farw ei gŵr, ei mam hithau, a’i phlant.

Roedd y teulu o Bontypridd wedi bod ar wyliau Pasg cynnar ym Machynlleth.

Y gred yn wreiddiol oedd mai dyn a tri o blant oedd yn y car, ond daeth i’r amlwg yn ddiweddarach bod y fam-gu ymysg y meirw.

Mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio i beth ddigwyddodd yn Argae Bwlch y Gle, Clywedog, Llanidloes. Mae honno ar fin y ffordd fynydd o Lanidloes i Fachynlleth.

Roedd y tad yn 66 oed a’r fam-gu yn 84, meddai’r heddlu.

Dyn wedi’i arestio

Cafodd dyn o ardal Llanidloes ei arestio ar amheuaeth o yrru yn beryglus. Mae bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Roedd yn gyrru Ford Mondeo ac, yn ôl yr heddlu,  roedd y ddau gar wedi taro ei gilydd wrth yrru i’r un cyfeiriad ar hyd y ffordd.

Syrthiodd y car 20 troedfedd i mewn i’r cronfa ddŵr cyn suddo 30 troedfedd i’r gwaelod.

Llwyddodd timau achub i dynnu’r Peugeot o’r gronfa ddŵr neithiwr. Roedden nhw eisoes wedi tynnu cyrff y dyn a’r plant o’r car.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys na fyddan nhw’n cyhoeddi unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn â’r pedwar nes bod eu perthnasau wedi cael gwybod.

Cafodd yr heddlu eu galw i safle’r ddamwain tua 2.30 y prynhawn.

Anfonwyd hofrennydd Sea King o RAF y Fali ar Ynys Môn, ac roedd dwy injan dân a dau gwch achub hefyd yn rhan o’r gwaith i geisio dod o hyd i’r teulu.