Llys y Goron Abertawe
Mae’n bosib fod tystiolaeth hanfodol yn achos llys John Cooper o Sir Benfro wedi ei halogi wrth gael ei storio, clywodd rheithgor heddiw.

Dywedodd yr achos o blaid y diffynydd ei bod hi’n bosib bod tystiolaeth sy’n cysylltu’r llofruddiaethau â’r llofrudd honedig wedi gadael eu hôl ar ei gilydd.

Daw’r dystiolaeth yn ystod achos llys John Cooper sydd wedi ei gyhuddo o ladd pedwar person yn Sir Benfro tua 25 mlynedd yn ôl.

Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Abertawe heddiw, dywedodd arbenigwr ar DNA, Dr Phillip Avenell, nad oedd bag oedd yn cynnwys un darn pwysig o dystiolaeth wedi bod ar gau pan oedd wedi ei storio.

Roedd yn cydnabod hefyd nad oedd dau ddarn o dystiolaeth sy’n rhan bwysig o’r achos llys wedi eu cadw dan amgylchiadau fforensig.

Ond dywedodd wrth y rheithgor ei fod yn “gwbl sicr” nad oedd y dystiolaeth yr oedd o wedi ei derbyn i’w harchwilio wedi ei halogi.

Fideo o’r dystiolaeth

Gwyliodd y rheithgor fideo oedd yn dangos fod rhai darnau o dystiolaeth wedi eu storio y tu allan i fagiau ac yn cyffwrdd ei gilydd.

Roedd y fideo yn dangos yr eitemau wedi eu cadw yn RAF Breudeth. Roedd cannoedd o eitemau mewn bagiau wedi eu storio ar sawl bwrdd mewn adeilad yno.

Wrth holi Phillip Avenell dywedodd Mark Evans QC, sy’n amddiffyn John Cooper, nad oedd y dystiolaeth wedi ei chadw dan amodau “rheoledig”.

“Mae’r fideo yn awgrymu hynny,” atebodd Phillip Avenell.

Y cefndir

Mae John Cooper, 66, o Dreletert, ger Abergwaun, wedi ei gyhuddo o lofruddio pedwar person trwy eu saethu.

Honnir ei fod wedi saethu’r miliwnydd Richard Thomas, 58, a’i chwaer Helen, 54, ym mis Rhagfyr 1985.

Cafodd y ddau eu saethu’n agos yn ffermdy Parc Scoveston, ger Aberdaugleddau. Cafodd y tŷ ei roi ar dân.

Mae John Cooper hefyd wedi ei gyhuddo o lofruddio Peter Dixon, 51, a’i wraig Gwenda, 52, bedair blynedd yn ddiweddarach.

Ymosodwyd ar y ddau wrth iddyn nhw gerdded ar hyd llwybr arfordirol ger yr Aber Bach ym mis Mehefin 1989.

Mae John Cooper hefyd wedi ei gyhuddo o bum lladrad arfog treisgar ar bum person ifanc mewn cae yn Aberdaugleddau ym mis Mawrth 1996.