Andy Powell
Mae chwaraewr rheng ôl Cymru, Andy Powell, wedi dweud bod o leiaf deg person mewn ymosod arno mewn tafarn yn Llundain.

Roedd Powell yn nhafarn The Walkabout yn Shepherd’s Bush Green pan ddioddefodd anaf i’w ben ar ôl cael ei daro gan stôl.

Bu’n rhaid iddo gael nifer o bwythau i’w ben yn dilyn y digwyddiad.

Mae Andy Powell a cyn-brop Lloegr, Tîm Payne, oedd gyda’r Cymro ar y pryd, wedi eu hatal dros dro tra bod ymchwiliad mewnol yn cael ei gynnal gan glwb Wasps Llundain.

“Cefais fy nharo i’w llawr gan y grŵp ac yna yna fy nghicio a fy nyrnu,” meddai Powell wrth bapur y Telegraph.

“Roedd yn brofiad brawychus.  Roeddwn i wedi cyrlio yn bêl er mwyn ceisio gwarcho fy hunan, ond doeddwn i ddim yn gallu diogelu cefn fy mhen.

“Dyna pryd y cefais fy nharo nharo gyda’r stôl ac fe gollais i ymwybyddiaeth yn llwyr.  Roeddwn i wedi dioddef cael clwyf eithaf gwael – roedd gwaed ym mhob man.

“Rwy’n credu fy mod i wedi colli tua dau beint o waed a chefais i fy anfon i’r ysbyty mewn ambiwlans i gael pwythau.”

Dywedodd yr heddlu nad oes unrhyw un wedi ei arestio hyd yn hyn ond bod yr ymchwiliad yn parhau.