Gwesty Carreg Môn (Llun o wefan y gwesty)
Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyflwyno llythyr protest i reolwyr Gwesty Carreg Môn yn Llanfairpwll heddiw.

Daeth i’r amlwg yr wythnos diwethaf fod y gwesty wedi gofyn i’w gweithwyr beidio â siarad Cymraeg yng nghwmni’r prif gogydd.

Roedd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi beirniadu Gwesty Carreg Môn ar ôl i staff dderbyn llythyr gyda’u slip cyflog yn gofyn iddyn nhw beidio siarad Cymraeg yn y gegin “am resymau diogelwch”.

Ddoe datgelodd Golwg 360 fod rheolwraig y gwesty bellach wedi penderfynu ymddiswyddo gan ddweud bod yr helynt achoswyd gan y gwaharddiad wedi dylanwadu ar ei phenderfyniad.

Ond mynnodd mai camargraff oedd hi fod y gwesty wedi gwahardd staff rhag siarad Cymraeg â’i gilydd.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith nad oedd penderfyniad y rheolwraig i ymddiswyddo yn golygu fod y polisi wedi’i wrth-droi.

“Er gwaethaf gwrthwynebiad y cyhoedd, nid ydym wedi cael cadarnhad fod y polisi yma wedi’i dynnu yn ôl,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mae gwrthod yr hawl i staff siarad Cymraeg yn rhywbeth na ellir ei oddef ac yn mynd yn gwbl groes i’r hawliau dynol mwyaf sylfaenol. Byddwn ni’n parhau a’n hymgyrch hyd y nes bod y gwesty yn newid ei bolisi.”

Mae’r llythyr, sydd yn enw Rhanbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith, yn galw ar y gwesty i barchu arferion ieithyddol pobl leol a gweithwyr a chaniatáu i’w staff siarad Cymraeg.

“Os yw’r Gymraeg i oroesi yn yr unfed ganrif ar hugain mae’n rhaid sicrhau fod gan bawb yr hawl i’w defnyddio yn y gweithle,” ychwanegodd Bethan Williams.