Ed Miliband
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wedi dweud nad oes angen rhagor o bwerau deddfu ar Gymru.

Ond dywedodd y byddai’n fodlon gwrando ar Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, pe bai’n dweud yn wahanol.

Cyrhaeddodd Ed Miliband Abertawe’r bore ma, ar y trên o Paddington yn Llundain.

Mae’r Blaid Lafur ymhell ar y blaen yn y polau piniwn ar hyn o bryd ac yn teimlo fod mwyafrif yn y Cynulliad o fewn eu gafael.

Ond mynnodd Ed Miliband ei fod yn cymryd y bleidlais ar 5 Mai o ddifri.

“Dydyn ni ddim yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol. Dyw etholiad ddim yn cyfri nes ei fod yn digwydd. Rydyn ni’n gwybod bod rhaid brwydro am bob pleidlais,” meddai.

“Mae pwy fydd yn cynnal Llywodraeth y Cynulliad, pwy fydd yn gwneud y penderfyniadau mawr yng Nghymru, yn bwysig i ni.

“Mae Carwyn wedi dangos mai ef yw’r person gorau i amddiffyn Cymru. Mae ganddo’r polisïau cywir ar ffioedd dysgu, prentisiaethau, a swyddogion cymunedol.

“Mae Cymru wedi cyrraedd y lle cywir o ran pwerau deddfu ar hyn o bryd. Dydyn ni ddim yn galw am bwerau pellach ar hyn o bryd.

“Fe fyddai’n gofyn i’r Blaid Lafur yng Nghymru a Carwyn roi arweiniad i fi yn hynny o beth.”

Colbio’r Ceidwadwyr

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne, wedi dweud bod rhannau o’r wlad yn dlotach na rhai o wledydd dwyrain Ewrop, ac nad oedd modd ymddiried yn y Blaid Lafur i wella’r economi.

Ond wfftiodd Ed Miliband hynny gan ddweud bod economi Cymru wedi ei fygu gan doriadau llym y Ceidwadwyr.

“Dydw i ddim yn cytuno â Mr Bourne. Roedd twf yn eithaf da pan ddaeth y Ceidwadwyr i rym,” meddai.

“Mae’r toriadau wedi bod yn ormod ac yn rhy gyflym ac maen nhw wedi dinistrio hyder y cyhoedd.

“Mae twf yr economi wedi pallu. Mae pobol eisiau i wleidyddion rhoi blaenoriaeth i greu swyddi a thwf a thorri’r diffyg ariannol drwy wneud hynny.”