Mae cynghorwyr Sir y Fflint wedi galw am gyfrif pleidleisiau’r sir ar noson Etholiadau’r Cynulliad ar 5 Mai.

Mae swyddog adroddol gogledd Cymru, Mohammed Mehmet, wedi penderfynu na ddylai cynghorau’r rhanbarth ddechrau cyfrif nes 9am ddydd Gwener, 6 Mai.

Ond mae cynghorwyr Sir y Fflint, sy’n cynnwys etholaethau Alyn a Glannau Dyfrdwy a Delyn wedi galw ar eu cyngor nhw i fwrw ymlaen â’r cyfrif ar y noson beth bynnag.

Ddoe galwodd Cynghorydd Cei Connah, Bernie Attridge o’r Blaid Lafur, ar y cynghorwyr eraill i gefnogi cynnig yn galw ar Gyngor Sir y Fflint i gyfri’r pleidleisiau ar y noson.

Ychwanegodd y byddai’n cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn Prif Weithredwr y sir, Colin Everett, pe na bai’n gwneud fel y mae’r cynghorwyr wedi ei ofyn.

Daw’r alwad ar ôl i arweinwyr pob un o’r prif bleidiau yng Nghymru ysgrifennu at Mohammed Mehmet yn galw arno i beidio ag oedi’r canlyniad yng Nghymru.

Mae yna bryder na fydd y canlyniad yn cael yr un sylw yn y wasg os nad yw’n hysbys y bore wedyn.

Ond mae’r swyddog adroddol yn pryderu fod gormod o waith eleni gan fod angen cyfri pleidleisiau’r refferendwm ar newid y system bleidleisio yn ogystal â’r pleidleisio rhanbarthol ac etholaethol.

Bydd gweddill Cymru yn bwrw ymlaen â’r cyfri yn syth ar ôl i’r blychau pleidleisio gau am 10pm.