Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi galw ar blant a phobol ifanc i beidio â chwarae ar y rheilffyrdd yn y tywydd poeth, ar ol llwyddo i osgoi “damwain catastroffig” ddydd Sul.

Roedd aelodau o’r cyhoedd wedi sylwi ar falurion ffens concrid a clogfaen ar reilffordd ger Wrecsam.

“Yn ffodus yn yr achos yma sylweddol dau berson oedd yn cerdded gerllaw ar y rhwystrau ar y rheilffordd a rhoi gwybod i swyddogion,” meddai’r Rhingyll Karl Anderson.

“Cafodd y rhwystrau eu symud cyn i’r trên deithio ar hyd y rheilffordd. Fe allai’r rhwystrau fod wedi achosi damwain catastroffig pe na bai’r bobol wedi eu weld.”

Cafodd y malurion eu gweld gan ddau berson rhwng Pentre Bychan a pentref Johnstown ger Rhosllanerchrugog, ar ôl 9am ddydd Sul.

Dywedodd yr heddlu y dylai plant a phobol ifanc gadw draw o’r rheilffyrdd ac y dylai rhieni wneud yn siŵr eu bod nhw’n gwybod lle y maen nhw.

Taflu cerrig

Dywedodd Karl Anderson bod unrhyw un sy’n chwarae ar reilffordd yn rhoi ei fywyd yn y fantol.

“Wrth i’r tywydd gynhesu a’r nosweithiau oleuo, rydyn ni’n gweld rhagor o bobol yn mynd ar y rheilffordd, yn taflu cerrig ac yn fandaleiddio,” meddai.

“Mae’r rheilffordd yn le arbennig o beryglus. Mae trenau sy’n teithio’n gyflym a cherrynt trydanol yn mynd drwy’r traciau. Ni ddylai plant ei drin fel lle chwarae.

“Mae taflu cerrig yn gallu lladd. Gall carreg bach sy’n taro trên sy’n teithio 100 milltir yr awr wneud niwed difrifol.

“Mae fandaleioddio offer hefyd yn peryglu bywydau. Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i sirchau bod unrhyw un sy’n rhoi bywydau pobol eraill mewn perygl yn cael eu herlyn.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am beth ddigwyddodd ar y rheilffordd ddydd Sul ffonio 0800 40 50 40 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.