Dros yr wythnosau nesaf bydd Catrin Haf Jones yn cymryd cipolwg ar y prif seddi i’w gwylio ar 5 Mai. Yr ail yw Aberconwy, lle mae’n frwydr tair ffordd rhwng Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur…

Yr Etholaeth

Gareth Jones o Blaid Cymru gipiodd y sedd yn 2007, pan grëwyd yr etholaeth o rannau o hen etholaethau Conwy a Meirionydd Nant Conwy.

Ond mae’r cyn-brifathro a’r gŵr lleol wedi penderfynu na fydd yn sefyll eto eleni ac mae Llafur a’r Ceidwadwyr yn credu fod ganddyn nhw gyfle da i gipio’r sedd hon oddi ar y Blaid.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn awyddus i ennill tir yma hefyd ac mae eu harweinydd, Nick Clegg, eisoes wedi ymweld ddechrau’r mis.

Mae’r etholaeth yn ymestyn o drefi glan-môr Conwy a Llandudno, i lawr at ardaloedd mwy gwledig Llanrwst a Betws-y-Coed – ac mae’r cymysgedd hwnnw yn golygu ei bod hi’n anodd proffwydo canlyniad y sedd hon.

Roedd hen etholaeth Meirionydd Nant Conwy yn gadarnle i Blaid Cymru yn San Steffan ac, yn ddiweddarach, yn y Cynulliad. Roedd Conwy, ar y llaw arall, yn perthyn yn draddodiadol i’r Ceidwadwyr yn San Steffan, cyn i Betty Williams gipio’r sedd i Lafur yn 1997, a’i chadw nes camu o’r neilltu yn 2010 – pan aeth sedd newydd Aberconwy i’r Ceidwadwr Guto Bebb, gyda mwyafrif sylweddol o 3,398 pleidlais.

Iwan Huws – Plaid Cymru

Y pryder i Blaid Cymru ar 5 Mai yw na fydd yr ymgeisydd newydd, Iwan Huws, yn derbyn y bleidlais bersonol yr oedd Gareth Jones yn ei fwynhau yn Aberconwy.

Ag yntau’n gweithio o fewn ffiniau’r etholaeth ers blynyddoedd, ond yn byw yn y Felinheli, bydd yn rhaid i Iwan Huws berswadio’r etholaeth ei fod yn nabod yr ardal a’i bobol gystal â’i ragflaenydd.

“Dw’ i’n ymwybodol iawn o’r her,” meddai Iwan Huws mewn sgwrs â Golwg 360, “Mae Gareth wedi bod yn boblogaidd iawn yn lleol. Ond dw i’n nabod yr ardal yn dda iawn, ac mae pobol yn teimlo cynhesrwydd mawr at y blaid yma.”

Serch hynny, cyfaddefodd Iwan Huws y bydd hi’n gystadleuaeth agos iawn yn Aberconwy.

“Mae hi yn her fawr fan hyn – mae Aberconwy wedi bod yn sedd ymylol erioed. Bydd yn her i fi, ac i’r Blaid, ei chadw hi.”

Mae Plaid Cymru wedi gweithio’n galed i gadw eu proffil yn uchel yn Aberconwy, gan benderfynu lansio’u hymgyrch cenedlaethol yn yr etholaeth.

Ond dywedodd Iwan Huws wrth Golwg 360 ei bod yn anodd rhagweld gydag unrhyw sicrwydd sut y bydd pethau’n mynd ar 5 Mai.

“Does ’na ddim ymgyrch benodol fel gwarchod ysbyty Llandudno yma tro yma,” meddai.

Yn 2007, cafodd Gareth Jones yr hawl gan y Comisiwn Etholiadol i roi’r frawddeg ‘Achubwch Ysbyty Llandudno’ wrth ei enw ar y papur pleidleisio, meddai.

Colli gwasanaethau cyhoeddus yw un o’r pynciau sy’n poeni pobol Aberconwy y tro yma, meddai, tra bod twristiaeth ac amaethyddiaeth yn ddiwydiannau pwysig i bobol yr ardal.

Janet Finch-Saunders – Ceidwadwyr

Mae Janet Finch-Saunders yn obeithiol y bydd hi’n llwyddo i gipio’r sedd yn sgil llwyddiant Guto Bebb yn etholiad San Steffan y llynedd.

“Mae Guto Bebb wedi gwneud gwahaniaeth mawr yma,” meddai, “dw’ i heb fynd i unman eto lle nad yw Guto wedi helpu rhywun mewn rhyw ffordd.”

Ond y newid mawr ers Etholiad 2010 yw bod y Ceidwadwyr bellach mewn grym yn San Steffan.

Mae toriadau’r Torïaid a’r Dems Rhydd wedi codi mewn sawl sgwrs wrth ymgyrchu, yn ôl Janet Finch-Saunders.

“Ond dyw hynny ddim wedi cael dylanwad negyddol,” meddai’r ymgeisydd Ceidwadol, “Mae pobol yn deall bod angen y toriadau.”

Beth sy’n cythruddo pobol Aberconwy yw diffyg sylw’r Cynulliad Cenedlaethol i unrhyw beth sy’n digwydd y tu allan i Gaerdydd a’r cyffuniau, meddai.

“Mae’n anodd weithiau trafod y Cynulliad â phobol ar y stepen drws.

“Mae pobol yn ei ystyried yn rhywbeth sy’n bodoli er mwyn Caerdydd yn unig,” meddai. “Maen nhw’n teimlo eu bod nhw wedi eu hanghofio fyny fan hyn.”

Mae hi hefyd yn disgwyl y bydd pleidlais Plaid Cymru yn dioddef yn Aberconwy am “nad yw’r Cynulliad wedi buddsoddi yn Aberconwy” dros y ddeuddeg mlynedd diwethaf.

“Mae Plaid wedi colli pleidlais rhai o’u cefnogwyr ffyddlonaf ar ôl cau’r gwaith alwminiwm yn Nolgarrog. Digwyddodd hynny heb i’r Cynulliad gynnig unrhyw gefnogaeth.”

Ond roedd hi’n cyfaddef y byddai’r canlyniad yn un agos yn Aberconwy.

“Ar lawr gwlad, os nad yw’r bleidlais i ni, mae e unai i Blaid Cymru neu i Lafur, ryw hanner-hanner,” meddai.

Mae hi’n dweud ei bod hi’n “dawel ffyddiog”, fodd bynnag, a’i bod hi’n gweld y Ceidwadwyr yn mynd â sedd y Cynulliad yn Aberconwy am y tro cyntaf eleni, tra bod Plaid a Llafur yn brwydro am yr ail safle.

Eifion Williams – Llafur

Dim ond ers dechrau mis Mawrth mae Eifion Williams wedi ei ddewis yn ymgeisydd i Lafur yn Aberconwy, ar ôl i Ronnie Hughes benderfynu peidio â sefyll.

Mae’r gŵr 40 oed yn byw yn Wrecsam, ond wedi bod yn gweithio yn yr ardal ar brosiectau amgylcheddol ers rhai blynyddoedd bellach.

Yn ôl Eifion Williams, bydd Llafur yn elwa o’r bleidlais brotest yn erbyn clymblaid San Steffan eleni.

“Bydd cwymp ym mhleidlais y rhyddfrydwyr ’dw i’n siŵr… mae nifer fawr ohonyn nhw wedi dod draw aton ni,” meddai.

Dywedodd hefyd bod y Ceidwadwyr wedi “siomi’r miloedd o bensiynwyr yn Aberconwy, ac wedi ei gwneud hi’n anos cael gwaith yma”.

Mae’r fuddugoliaeth yn y refferendwm ar bwerau’r Cynulliad hefyd wedi bod yn hwb i gefnogaeth Llafur yn Aberconwy, meddai.

“Mae cyn-gefnogwyr Plaid Cymru wedi bod yn dweud eu bod nhw eisiau tîm cryf sydd â syniadau ac sy’n mynd i warchod ein heconomi a’n cymunedau.

“Dydyn nhw ddim eisiau pleidiau bach sydd yn gorfod cyfaddawdu o hyd.”

Serch hynny dyw Eifion Williams ddim yn barod i ddarogan buddugoliaeth hawdd i’r Blaid Lafur. Gall unrhyw un ennill yma, meddai.

“Mae penderfyniad Gareth i gamu o’r neilltu yn golygu ei bod hi’n ras agored,” meddai.

Beth fydd y canlyniad felly? Ar sail “y polau-piniwn cenedlaethol, a fy ngwaith i’n lleol”, mae ymgeisydd Llafur Aberconwy yn meddwl y gall e a’i blaid gipio’r sedd eleni, â’r Ceidwadwyr yn gwthio Plaid Cymru i’r trydydd safle.

Canlyniad Etholiad 2007

Plaid Cymru Gareth Jones 7,983 38.6
Ceidwadwyr Dylan Jones-Evans 6,290 30.4
Llafur Denise Jones 4,508 21.8
Democratiaid Rhyddfrydol Euron Hughes 1,918 9.3

Ymgeiswyr Aberconwy, Etholiad y Cynulliad 2011

Ymgeisydd Plaid
Eifion Williams Llafur
Iwan Huws Plaid Cymru
Janet Finch-Saunders Ceidwadwyr
Mike Priestly Democratiaid Rhyddfrydol