Fe fydd y Tywysog William a Kate Middleton yn derbyn crisial yn “anrheg priodas gan  bobol Cymru”.

Dywedodd swyddogion fod yr anrheg wedi ei gomisiynu ar y cyd gan Lywodraeth y Cynulliad a’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r crisial unigryw wedi ei greu gan gwmni Welsh Royal Crystal o Raeadr Gwy.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y byddai’r crisial yn anrheg briodol gan bobol Cymru.

“Mae gan y ddau gysylltiad cryf iawn â’r wlad yma ac maen nhw wedi penderfynu ymgartrefu yma,” meddai.

“Rydw i’n dymuno’r gorau iddyn nhw ar eu diwrnod mawr, ac y byddwn nhw’n hapus gyda’i gilydd.”

Dywedodd Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, ei fod wrth ei fodd â’r anrheg.

“Mae pobol Ynys Môn a gweddill Cymru wedi eu croesawu nhw,” meddai.

“Gobeithio y gwnânt nhw dderbyn yr anrheg yma fel arwydd o’n cariad ni tuag atyn nhw, a’n dymuniadau gorau tuag at y dyfodol.”

Dywedodd David Thomas o Welsh Royal Crystal ei fod yn “anrhydedd” cael creu “anrheg mor bwysig i’r pâr brenhinol”.