Andy Powell
Mae chwaraewr rhyngwladol Cymru, Andy Powell, wedi ei atal dros dro gan ei glwb London Wasps yn dilyn ffrae mewn tafarn nos Lun.

Cafodd Heddlu’r Met eu galw ond ni chafodd unrhyw un ei arestio.

Mae Andy Powell a cyn-brop Lloegr, Tîm Payne, wedi eu hatal dros dro tra bod ymchwiliad mewnol yn mynd rhagddo.

Daw’r newydd fod Andy Powell, 29 oed, wedi ei atal dros dro ar ôl i dîm Toulon yn Ffrainc gyhoeddi fod Gavin Henson wedi ei wahardd am wythnos ar ôl torri rheolau’r clwb.

Mae adroddiadau yn y wasg bod Gavin Henson, un arall o chwaraewyr rhyngwladol Cymru, wedi ffraeo â rhai o’i gyd-chwaraewyr.

“Cafodd swyddogion eu galw am 10.30pm ddydd Llun, 18 Ebrill, yn dilyn adroddiadau ynglŷn â ffrae yn nhafarn Walkabout, Shepherd’s Bush Green, Llundain,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Ychwanegodd nad oedd unrhyw un wedi ei arestio a bod yr ymchwiliad yn parhau.