Gwesty Carreg Môn (Llun o wefan y gwesty)
Mae rheolwr cyffredinol gwesty gafodd ei chyhuddo o atal staff rhag siarad Cymraeg wedi penderfynu ymddiswyddo, meddai wrth Golwg 360 heddiw.
Dywedodd Ruth Hogan mai am nad oedd hi’n gallu gweithio rhagor na tri diwrnod yr wythnos y penderfynodd fynd, ond cyfaddefodd nad oedd yr helbul diweddar “wedi helpu”.
Bydd Rheolwr Cyffredinol newydd yn cael ei benodi’n fuan, meddai Ruth Hogan sydd wedi bod yn rheolwr cyffredinol ar y gwesty ers pum mlynedd.
Roedd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi beirniadu Gwesty Carreg Môn yn Llanfairpwll ar ôl i staff dderbyn llythyr gyda’u slip cyflog yn gofyn iddyn nhw beidio siarad Cymraeg yn y gegin “am resymau diogelwch”.
Ond mynnodd Ruth Hogan mai “un aelod o staff yn camddehongli memo” oedd yn gyfrifol am y camargraff bod y gwesty wedi gwahardd staff rhag siarad Cymraeg â’i gilydd.
Cogydd
Dywedodd Ruth Hogan fod y gwesty wedi gofyn i staff i beidio siarad Cymraeg mewn dwy ardal yn y gegin, am nad oedd y prif gogydd yn deall nac yn siarad yr iaith.
“Un aelod staff oedd wedi camddehongli’r memo” a “dim ond cwpl o shifftiau yr oedd o wedi eu gweithio” ers dechrau yn y gwesty bum wythnos yn gynharach, meddai.
Mynnodd fod y staff yn “siarad Cymraeg yn agored ymhlith ei gilydd ac o amgylch y gwesty”.
Ond, roedd wedi gofyn i staff i beidio siarad Cymraeg yn y man lle mae’r prydau’n mynd i’r gegin ac wrth siarad â’r Prif Gogydd, Bob Marshall, meddai.
“Does yna ddim gwaharddiad ar siarad Cymraeg. Mae’r staff wedi torri eu calonnau a dw innau hefyd,” meddai.
“Mae Bob Marshall yn 52 mlwydd oed. Fedra i ddim ei orfodi i wneud cwrs Cymraeg. Prif gogydd ydi o. Mae mor anodd cael gafael ar brif gogydd.
“Petawn i’n dweud bod rhaid iddo ddysgu Cymraeg, efallai y byddai’n gadael. Dydw i ddim eisiau gwahaniaethu yn ei erbyn. Pwy sy’n rhoi’r hawl i mi ddweud bod rhaid iddo ddysgu Cymraeg?”
‘Dychrynllyd’
Dywedodd Ruth Hogan bod yr holl sylw dros yr wythnos diwethaf wedi peri gofid mawr iddi.
“Mae wedi bod yn ddychrynllyd i mi. Dros yr wythnos ddiwethaf, rydw i wedi derbyn e-byst ofnadwy. Rydw i wedi crio drwy’r wythnos. Rydw i wedi torri fy nghalon.
“Fe es i’r Ysgol Feithrin ym Menllech, Ysgol Goronwy Owen ac i Ysgol David Hughes. Rydw i’n hynod o gefnogol o’r iaith Gymraeg – dyw’r ffaith nad oes gen i acen Gymraeg ddim yn golygu nad ydw i’n Gymro.
“Fe gymerais i ran yn yr Urdd ac eisteddfodau eraill, ac rydw i wedi dweud fy mod i’n Gymro erioed.”
Staff yn cefnogi
Dywedodd un o weithwyr y gwesty, Tracy Withers, rheolwr y dderbynfa, wrth Golwg360, fod “camddealltwriaeth bach wedi tyfu y tu hwnt i reolaeth”.
“Roedden ni gyd yn deall beth oedd neges y memo. Synnwyr cyffredin ydi peidio siarad Cymraeg â gweithiwr di-Gymraeg,” meddai.
Aelod staff oedd wedi “darllen archeb bwyd allan i’r cogydd yn Gymraeg” cyn bod y cogydd wedi dweud nad oedd yn deall yr iaith, a dyna oedd wedi sbarduno’r memo, meddai.
“Rydw i’n parchu’r rheolwraig yn ofnadwy, mae hi wedi annog siarad Cymraeg yn y gwesty, rydw i’n dysgu’r iaith ac mae hi wedi bod mor gefnogol.”
Protest
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth Golwg360 y bydd y mudiad yn cynnal protest yn y gwesty fory.
Ychwanegodd Bethan Williams y bydd y Gymdeithas yn gofyn i’r Gwesty “dynnu eu datganiad am yr iaith yn ôl”.
“Maen nhw (Gwesty Carreg Môn) wedi diystyru’r iaith Gymraeg. Mae Llanfairpwll mewn dalgylch sy’n un o gadarnleoedd yn iaith.
“Mae’n amharchus a sarhaus i ofyn i staff beidio siarad Cymraeg. Maen nhw’n dangos nad ydyn nhw’n parchu’r Gymraeg,” meddai.