Dafydd Elis-Thomas
Mae Dafydd Elis-Thomas, ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd, wedi galw am ddatganoli gwylwyr y glannau a gwasanaethau brys eraill o San Steffan i’r Cynulliad.

Dywedodd y dylai ei ddymuniad i ddatganoli’r pwerau gael eu cynnwys mewn adolygiad o gynlluniau Llywodraeth San Steffan i gau nifer o ganolfannau’r gwylwyr yng Nghymru.

Mae’r Maritime and Coastguard Agency (MCA) yn bwriadu cau gorsafoedd Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi ac Aberdaugleddau yn gyfan gwbl a chau gorsaf Abertawe yn ystod y nos.

Fis diwethaf penderfynodd Llywodraeth San Steffan i ymestyn y cyfnod ymgynghori nes ar ôl yr etholiadau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

“Rydw i’n awyddus i gynrychioli ardal sy’n cynnwys y rhan fwyaf o arfordir gogledd Cymru, o Fae Caernarfon i ganol Bae Ceredigion, felly fe hoffwn i gyflwyno cais i ddatganoli pwerau dros warchod yr arfordir i’r Cynulliad Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru.

“Gall ymrwymiad Plaid Cymru ddiogelu ein gwasanaethau rhag cynlluniau Llywodraeth San Steffan i’w hail-drefnu,” meddai Dafydd Elis-Thomas.

“Dylai hyn gael ei ystyried ochr yn ochr gyda chyfrifoldebau dros yr amgylchedd, a gwasanaethau brys eraill, gan gynnwys badau achub, a thimoedd achub mynyddoedd, afonydd a thraethau.”