Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones
Mae’r Blaid Lafur yn gobeithio denu sylw pleidleiswyr â phoster digidol a fydd yn teithio o gwmpas Cymru.

Datgelodd y blaid y sgrin 9 troedfedd wrth 6 troedfedd, sydd yn rhestru addewidion y blaid, y tu allan i Ganolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid mae dyma’r tro cyntaf i boster digidol gael ei ddefnyddio mewn etholiad yng Nghymru.

Y nod oedd arloesi ar y pleidiau eraill, meddai. Mae’r poster yn dangos negeseuon gan gynnwys ‘Dim cenhedlaeth goll’ a ‘Pleidleisiwch dros Lafur’.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn ystod y lansiad ei fod yn falch o’r ymgyrch etholiadol hyd yn hyn.

“Rydyn ni wedi gweithio’n galed ac yn bwriadu brwydro am bob pleidlais,” meddai.

“Mae’n bwysig nad ydyn ni’n bodloni ar eistedd yn ôl ac fe fydda i yn teithio i bob cwr o Gymru er mwyn tanlinellu ein haddewidion ni.”

Mynnodd Aelod Cynulliad Pen-y-bont ar Ogwr nad oedd y poster digidol yn “gimig” ac y byddai’n cyd-fynd â ffyrdd traddodiadol o ymgyrchu.

“Pan ddechreuais i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth yn 1999 roedd y rhan fwyaf o’r ymgyrchu yn ymwneud â churo ar ddrysau, sydd yn parhau yn rhan bwysig wrth gwrs,” meddai.

“Ond heddiw mae pobol yn cael eu gwybodaeth o ystod eang o ffynonellau gwahanol ac mae’n bwysig ein bod ni’n defnyddio’r rheini.”

Bydd y sgrin yn teithio o amgylch prifddinas Cymru prynhawn ma cyn teithio i Gaerfyrddin erbyn diwedd y dydd.

Fe fydd yn teithio o gwmpas gweddill Cymru dros yr wythnosau nesaf.

Ymysg addewidion maniffesto’r Blaid Lafur mae rhagor o brentisiaethau i bobol ifanc, rhagor o arian i ysgolion, a rhagor o arian i dalu am ofal meithrin am ddim i blant.