Y Cae Ras (llun o wefan clwb Wrecsam)
Mae aelodau Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam wedi pleidleisio o blaid dau newid i gyfansoddiad y clwb.

Roedd yr ymddiriedolaeth wedi galw am gyfarfod arbennig i drafod dyfodol y clwb a pleidleisio dros y newidiadau.

Fe bleidleisiodd aelodau o blaid defnyddio fframwaith i asesu cynigion gan fuddsoddwyr newydd yn ogystal â lleihau’r amser sydd ei angen cyn galw cyfarfod o 14 diwrnod i saith.

Y nod yw galluog i’r ymddiriedolaeth ymateb yn gyflymach i ddatblygiadau yn ymwneud a’r clwb wrth i Wrecsam chwilio am berchennog newydd er mwyn sicrhau dyfodol y clwb.

Dyled

Mae Wrecsam yn wynebu gorchymyn dirwyn y clwb i ben wrth i’r adran Cyllid a Thollau geisio hawlio dylediad o £200,000 wrth y clwb.

Mae’r Dreigiau wedi cadarnhau nad ydynt wedi talu’r ddyled yn llawn er gwaethaf adroddiadau yn y wasg.

Maen nhw wedi cadarnhau bod y gwleidydd John Marek wedi cynnig benthyciad i’r clwb a’i fod hefyd yn ceisio dod o hyd i fuddsoddiad gan eraill.

Talu’n llawn

“Mae’r adran cyllid a thollau wedi dweud y glir mae’r unig ffordd y byddwn nhw’n tynnu’r gorchymyn yn ôl yw os bydd y swm yn cael ei dalu’n llawn- ni fyddwn nhw’n derbyn taliad rhannol,” meddai Wrecsam mewn datganiad.

Mae’r clwb am gynnal menter ar gyfer y gêm yn erbyn Tamworth i geisio codi swm sylweddol tuag at dalu’r dyledion.

Fe fydd y clwb yn cyhoeddi manylion pellach ynglŷn â’r fenter yn hwyrach.  Ond maen nhw wedi dweud na fydd unrhyw docynnau am ddim yn cael ei rhoi allan ar gyfer y gêm.

Maen nhw wedi dweud eu bod nhw’n ei chael hi’n anodd gweithredu’n effeithiol wrth iddynt ddisgwyl i gyfrif banc y clwb gael ei rewi oherwydd eu sefyllfa ariannol.

Dywedodd y clwb eu bod nhw dal i fod mewn cysylltiad gyda’r ddau grŵp sydd wedi dangos diddordeb i brynu’r clwb yn ogystal â chynnal trafodaethau gyda’r ymddiriedolaeth.