Mae mwy na 75 o bysgod wedi eu lladd gan lygredd mewn afon yn Sir Gâr.
Cafodd 1.5km o’r afon ei llygru.
Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd eu bod nhw wedi cael hyd i darddiad y llygredd ger Pencader ac wedi ei atal.
Roedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn gwrthod datgelu enw’r afon. Mae Afon Tweli yn llifo drwy’r pentref, i Afon Teifi.
Mae’r asiantaeth yn ymchwilio i’r mater ar hyn o bryd.
Dylai unrhyw un sydd yn gweld llygredd ffonio’r asiantaeth ar 0800 807060.