Mae cwmni Magners wedi cadarnhau eu bod nhw’n bwriadu rhoi’r gorau i noddi’r Gynghrair Celtaidd ar ddiwedd y tymor.

Mae’r cwmni seidr wedi noddi’r gynghrair sy’n cynnwys pedwar tîm o Gymru, pedwar o Iwerddon, dau o’r Alban a dau o’r Eidal ers 2006.

“Mae’r grŵp wedi penderfynu edrych am gyfleoedd eraill,” meddai llefarydd ar ran cwmni rhiant Magners, C&C.

Mae yna adroddiadau bod sawl cwmni eisoes wedi dangos diddordeb mewn noddi’r gynghrair, gyda chwmni ceir Eidaleg, Fiat.

Doedd gan y Gynghrair Geltaidd ddim noddwr yn ystod pum mlynedd cyntaf y gystadleuaeth, rhwng 2001 a 2006.