Dros yr wythnosau nesaf bydd Catrin Haf Jones yn cymryd cipolwg ar y prif seddi i’w gwylio ar 5 Mai. Y cyntaf yw Ceredigion, ble mae brwydr ffyrnig arall rhwng Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd rhagddo…

Yr Etholaeth

Mae Plaid Cymru yn dal y sedd yma yn y Cynulliad ers 1999, ond cipiodd y Democratiaid Rhyddfrydol y sedd yn San Steffan o drwch blewyn yn 2005.

Cynyddodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu mantais o 219 i 8,324 pleidlais yn yr Etholiad Cyffredinol y llynedd.

Mae’r polau piniwn yn awgrymu eu bod nhw’n llawer llai poblogaidd eleni yn sgil y glymblaid yn San Steffan, ac y gallai Plaid Cymru gadw’r sedd hon.

Serch hynny mae’r rhai sy’n cyfri pleidleisiau wedi cael gwybod y dylen nhw baratoi ar gyfer noson hwyr ar 5 Mai, ac mae’r ceffylau blaen yn cytuno y bydd hi’n ras agos.

Mae Elin Jones yn ymgeisydd poblogaidd a phrofiadol ond mae yn sawl pwnc llosg yn lleol – gan gynnwys difa moch daear a chynllun Glastir – a allai golli pleidleisiau iddi.

Fel y llynedd mae ochrau’r ffyrdd yn frith o arwyddion gwyrdd ac oren – â’r Democratiaid Rhyddfrydol sy’n ennill y frwydr honno o 2:1 ar hyn o bryd.

Dim ond unwaith yn y ganrif ddiwethaf mae’r sedd wedi ei hennill gan unrhyw un heblaw am Blaid Cymru neu’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn San Steffan yn ogystal ag ym Mae Caerdydd.

Digwyddodd hynny ym 1966 pan gipiwyd y sedd, am ddau dymor, gan Elystan Morgan o’r Blaid Lafur – a oedd ei hun yn gyn-ymgeisydd Plaid Cymru.

Ond, os yw pôl-piniwn answyddogol diweddar gan Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth i’w gredu, mae’n debyg mai un ceffyl sydd bellach ar y blaen yng Ngheredigion, tra bod cystadleuaeth ddiddorol iawn wedi dechrau am yr ail a’r trydydd safle.

Yn ôl yr arolwg – sy’n cael ei amau’n fawr gan y Democratiaid Rhyddfrydol – mae Llafur wedi ennill tir yn sylweddol yng Ngheredigion ers 2007, a hynny yn bennaf ar draul y Dems Rhydd.

Mae casgliadau’r pôl piniwn yn rhoi Plaid Cymru ar y blaen ar 42% (-7% ers 2007), y Dems Rhydd yn ail ar 23% (-13% ers 2007), a’r Blaid Lafur mewn trydydd safle addawol iawn ar 20% (+15% ers 2007).

Elin Jones – Plaid Cymru

Elin Jones sydd wedi cadw Ceredigion yn y Cynulliad ers y dechrau. Enillodd y sedd i Blaid Cymru gyda dros 10 mil o fwyafrif yn 1999 – ond mae’r mwyafrif hwnnw wedi disgyn yn raddol ers hynny.

Roedd bwlch o 3,955 o bleidleisiau rhyngddi hi ac ymgeisydd y Dems Rhydd yn 2007, ac mae’n rhagweld y bydd bwlch tebyg yn eto eleni, er gwaethaf cynnydd sylweddol y Dems Rhydd yn etholiad San Steffan y llynedd.

“Mae nifer o’r bobol bleidleisiodd dros y Dems Rhydd y llynedd wedi cael eu siomi,” meddai, tra ei bod yn ffyddiog fod pedair blynedd Plaid Cymru mewn grym ym Mae Caerdydd wedi denu cefnogaeth newydd i’r blaid.

“Mae Plaid wedi gwneud gwahaniaeth,” meddai wrth Golwg 360, “ac r’yn ni wedi ymestyn diddordeb pobol yn y Cynulliad tu hwnt i goridor yr M4.”

Dywedodd ei bod hi’n rhoi pwyslais ar bwnc iechyd wrth ymgyrchu, gan mai dyna’r “flaenoriaeth fwyaf yng Ngheredigion.” Dywedodd mai diogelu ysbyty Bronglais, ac adeiladu ysbytai newydd yn Aberteifi a Thregaron, sydd fwyaf o bwys iddi hi.

Ond mae penderfyniadau Elin Jones yn ystod ei pedair blynedd diwethaf yn Weinidog Amaeth wedi cael sylw yn ystod yr ymgyrch hefyd.

Mae’r Dems Rhydd wedi beirniadu Elin Jones am amhoblogrwydd cynllun Glastir ymysg ffermwyr, ac mae’r cynllun i ddifa moch daear wedi ennyn gwrthwynebiad mudiadau lleol yn ogystal â’r Blaid Werdd, Llafur, a’r Dems Rhydd – tri o’i gwrthwynebwyr yn etholaeth Ceredigion.

Wrth siarad â Golwg 360, dywedodd Elin Jones ei bod yn hyderus mai Plaid Cymru fyddai’n mynd â’r sedd yng Ngheredigion eleni eto.

Y Dems Rhydd fyddai’n ail, a Llafur yn drydydd, meddai, ond doedd hi ddim am gymryd dim yn ganiataol eto.

“Dw’ i ’di dysgu ers sbel bod y Cardis yn rai da am ein cadw ni aros nes y funud ola’!”

Elizabeth Evans – y Democratiaid Rhyddfrydol

Mae buddugoliaeth swmpus yr Aelod Seneddol Mark Williams y llynedd wedi bod yn hwb mawr i ymgyrch Elizabeth Evans i gipio’r sedd yn y Cynulliad, meddai.

Wedi ei geni a’i magu yn Aberaeron, mae Elizabeth Evans bellach yn gynghorydd tref, ers dychwelyd i’r ardal yn dilyn cyfnod yn gweithio yng Nghaerdydd ac yna yn Llundain.

Mae hi wedi bod yn gweithio i Mark Williams, AS, ers iddo gael ei ethol yn 2005, ac mae’n dweud fod hynny wedi rhoi digon o brofiad iddi fod yn AC, yn ogystal â syniad da am beth sy’n bwysig i bobol Ceredigion – sef iechyd, yr economi a thrafnidiaeth.

Yn ôl Elizabeth Evans, mae’r ymgyrchu’n mynd yn “dda iawn” ar hyn o bryd, er iddi gyfaddef, mewn sgwrs gyda Golwg 360, ei bod wedi “pryderu am gwrdd â phobol ar y stepen ddrws i ddechrau, achos y glymblaid yn Llundain”.

Mae Dems Rhydd Cymru wedi buddsoddi yn fawr yn ymgyrch Ceredigion eleni, gan gynnwys lansio’u maniffesto cenedlaethol yn Aberaeron yr wythnos diwethaf. Lai nag wythnos yn ôl, roedd arweinydd y Dems Rhydd Prydeinig, Nick Clegg, yn y dref, fel rhan o’i daith undydd o amgylch rhai o seddi targed y blaid yng Nghymru.

Dywedodd Elizabeth Evans nad oedd hi’n credu pôl piniwn Adran Gwleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth oedd yn awgrymu y gallai’r Blaid Lafur ddod yn ail.

“Dyw e ddim yn cyd-fynd â beth y’n ni wedi ei glywed o gwbl,” meddai, “ond dyw e ddim yn sioc i fi glywed, achos fi’n gwybod o ble mae’r stats wedi dod.”

Wrth edrych ymlaen at 5 Mai, dywedodd Elizabeth Evans ei bod hi’n rhy agos rhwng Plaid a’r Dems Rhydd i ragweld pwy fyddai’n ennill, ond roedd hi’n credu y byddai Llafur yn y trydydd safle.

Richard Boudier – Llafur

Mae un dyn, o leia’, sy’n rhoi Llafur yn ail yn y ras yng Ngheredigion eleni – a’r ymgeisydd Richard Boudier yw hwnnw.

“Dwi’n hyderus y gallwn ni ddod yn ail, o flaen y Dems Rhydd tro hyn, ac wedyn gallwn ni fynd ymlaen i herio Plaid yn y dyfodol,” meddai.

Pe bai hynny’n digwydd dyma fyddai’r ail waith i Lafur ddod yn ail yng Ngheredigion yn Etholiadau’r Cynulliad – ar ôl mynd ryw fil o bleidleisiau ar y blaen i’r Dems Rhydd a chipio’r ail safle yn 1999.

Dywedodd Richard Boudier fod sawl ffactor fyddai’n hwb i’r Blaid Lafur ar hyn o bryd.

“Mae cefnogwyr y Dems Rhydd wedi troi cefn arnyn nhw yn sgil y glymblaid yn San Steffan… a bydd hynny o fwy o les i Lafur na Phlaid,” meddai.

“Mae ganddon ni ddau arweinydd newydd, Ed Miliband a Carwyn Jones… Mae pobol yn barod i ystyried y Blaid Lafur unwaith eto.”

Mae’r ymgeisydd yn gobeithio y bydd y pôl-piniwn hefyd yn ysgogi pobol i bleidleisio dros y blaid.

“Bydd pobol ar lawr gwlad yn gwybod na fyddan nhw’n gwastraffu eu pleidlais drwy gefnogi Llafur,” meddai.

Etholiad 2007

Plaid Cymru Elin Jones 14,818 49.2
Dems Rhydd John Davies 10,863 36.1
Ceidwadwyr Trefor Jones 2,369 7.9
Llafur Linda Grace 1,530 5.1
Annibynol Emyr Morgan 528 1.8

Ymgeiswyr Etholiad 2011

Ymgeisydd Plaid
Elin Jones Plaid Cymru
Elizabeth Evans Democratiaid Rhyddfrydol
Richard Boudier Llafur
Luke Evetts Ceidwadwyr
Chris Simpson Y Blaid Werdd