Senedd Cymru
Cai Larsen, awdur gwefan poblogaidd Blogmenai, sy’n dadlau o blaid cytundeb Cymru’n Un 2…

Rydwyf yn mawr obeithio y bydd y glymblaid rhwng Plaid Cymru a Llafur yn cael ei hadnewyddu wedi Mai 5, a’r rheswm am hynny ydi oherwydd fy mod yn genedlaetholwr.

‘Dwi’n gwybod bod  llawer o buryddion cenedlaetholgar yn cael y syniad o gyfaddawdu unwaith eto gyda phlaid unoliaethol yn anathema, a bod aml i genedlaetholwr mwy hyblyg yn meddwl y dylai’r Blaid gamu’n ôl o’r busnes o lywodraethu am ychydig – wedi’r gwbl mae’n haws yn wleidyddol i wrthwynebu nag ydi hi i lywodraethu.  Mae gen i ofn fy mod yn anghytuno .

‘Dwi’n ddigon hen i gofio’r refferendwm cyntaf yn 79, a’r canfyddiad oedd yn weddol gyffredinol bryd hynny bod yr ymdeimlad o Gymreictod yn edwino a bod y nodweddion hynny oedd yn ein diffinio ac yn rhoi arwahanrwydd i ni yn datgymalu yn weddol gyflym.  Mae’n dda gen i nodi na ddigwyddodd yr hyn yr oedd llawer ohonom yn ei ofni bryd hynny.  Yn araf ail ymddangosodd y llinynnau sy’n ein cadw at ein gilydd fel cenedl o’r pridd, yn fudur ac yn anodd i’w gweld weithiau, ond yn gryf ac yn gadarn er hynny.  Roedd mwy i genedligrwydd Cymreig nag oedd yn amlwg i lawer ohonom.

Er hynny, yn y byd sydd ohoni, mae cenedl go iawn angen mwy nag ymdeimlad  o berthyn i sicrhau ei dyfodol  hir dymor.  Mae hefyd angen bywyd cenedlaethol – ac mae bywyd cenedlaethol angen strwythurau cenedlaethol i’w gynnal.  Llwyddodd y Mudiad Cenedlaethol  i ddylanwadu ar wleidyddiaeth Prydeinig mewn ffyrdd sydd wedi sicrhau rhai o’r strwythurau hynny yn y gorffennol.  Er enghraifft mae’n anhebygol y byddai’r Swyddfa Gymreig, y Cynulliad Cenedlaethol nag S4C wedi eu sefydlu yn absenoldeb Plaid Cymru a grwpiau ymgyrchu megis Cymdeithas yr Iaith.

Roedd y datblygiadau hynny yn arwyddocaol wrth gwrs, ond roeddynt yn rhai a ddigwyddodd yn eithaf mympwyol tros gyfnod hir o amser.  Mae llawer wedi digwydd yn weddol gyflym o ran adeiladu strwythurau  cenedlaethol  yn ystod cwta bedair blynedd Cymru’n Un – refferendwm a phwerau deddfu, deddf iaith newydd, comisiynydd iaith, mabwysiadu dull Cymru gyfan o fynd i’r afael â datblygu, economaidd, datganoli is adrannau llywodraethol i’r Gogledd a’r Cymoedd, gosod seiliau coleg ffederal Cymraeg, datblygu strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg o’r cyfnod meithrin i addysg bellach,  buddsoddi mewn theatr cyfrwng Saesneg cenedlaethol, hybu henebau cynhenid a gwella’r is-strwythur trafnidiaeth oddi mewn i’r wlad, er enghraifft.

Llwyddwyd i wireddu hyn oll mewn cyn lleied o amser oherwydd bod presenoldeb Plaid Cymru yn y glymblaid yn sicrhau ffocws gwirioneddol genedlaethol i’r broses o lywodraethu – rhywbeth nad oedd wedi digwydd yn hanes llywodraethiant Cymru ers dyddiau Glyndwr.  Petai Llafur yn rheoli ar ei phen ei hun byddai’n gwneud hynny yn absenoldeb y ffocws hwnnw, a byddai pethau’n symud yn eu blaenau yn llawer, llawer arafach.

‘Does gen i ddim problem mewn egwyddor efo clymbleidio gyda’r Toriaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol, ond yn yr amgylchiadau gwleidyddol presennol byddai dilyn y cwrs yma yn hunan laddiad etholiadol i’r Blaid.  Felly, yn yr amgylchiadau sydd ohonynt, y ffordd orau  i symud achos Cymru ymlaen ydi trwy sefydlu Cymru’n Un 2 – os bydd y mathemateg etholiadol yn caniatau hynny wrth gwrs.