Cae Ras
Mae perchnogion clwb pêl-droed Wrecsam yn dweud eu bod yn gwneud eu gorau i geisio achub y clwb ar ôl i’r Adran Dreth  alw am ei gau.

Roedden nhw’n “siomedig a rhwystredig”, medden nhw, am fod eu cynigion i geisio clirio’r ddyled wedi cael eu gwrthod.

Ac maen nhw wedi gwneud dwy apêl – am i gefnogwyr dyrru i’r Cae Ras ac am gymorth ariannol i glirio’r biliau.

Fe ddaeth y gorchymyn ddoe wrth i’r Adran Incwm a Thollau wrthod cynlluniau i glirio’r ddyled o bron £200,000.

Yn ystod yr wythnosau diwetha’ mae sawl ymgais i werthu’r clwb i berchnogion newydd – gan gynnwys consortia sy’n cynnwys cefnogwyr – wedi methu.

Apelio

Yn ôl datganiad gan y perchnogion, mae angen rhagor o gefnogwyr i ddod i’r gêmau – cyfartaledd o 4,000 bob tro yn y Cae Ras.

Fe allai pob cefnogwr helpu trwy ddod i’r gêmau, medden nhw, gan ddweud bod y cyfarwyddwyr wedi gorfod rhoi’n hael i gynnal tîm sy’n cystadlu am ddyrchafiad i brif gynghrair Lloegr.

Maen nhw hefyd wedi apelio am chwistrelliad o arian i glirio’r ddyled – fe fyddai £200,000 yn ddigon medden nhw.

Mae gan Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr gronfa wrth gefn o tua hanner miliwn wrth iddyn nhw anelu at brynu’r clwb a’r Cae Ras.

Ar wahân i’r ddyled dreth, mae’r perchnogion yn dweud bod dyledion i mewn ac allan yn canslo’i gilydd.