Yr Arglwydd Dafydd Wigley o Arfon
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bradychu S4C, ar ôl cynnig addewidion i helpu’r Sianel.

Dyna gyhuddiad yr Arglwydd Dafydd Wigley o Arfon, sy’ lawr yng Ngheredigion heddiw yn canfasio gydag ymgeisydd Plaid Cymru er mwyn denu cefnogaeth ar gyfer etholiad y Cynulliad ar Fai 5.

Yn yr etholiadau diweddar mae Ceredigion wastad wedi bod yn ras agos rhwng y Blaid a’r Lib Dems.

Felly nid yw’n syndod gweld yr Arglwydd Wigley yn pardduo’r prif wrthwynebwyr, a hynny dros achos y Sianel Gymraeg mewn etholaeth lle mae dros hanner y boblogaeth yn siarad yr iaith yn ôl Cyfrifiad 2001.

Roedd Dafydd Wigley wedi cynnig gwelliant i gynllun y Llywodraeth yn Nhŷ’r Arglwyddi, sef bod y cyfrifoldeb am S4C yn symud yn ei gyfanrwydd o San Steffan i Fae Caerdydd.

“Mewn pleidlais allweddol yn Nhŷ’r Arglwyddi mi wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol, a oedd wedi brolio eu bod yn cefnogi S4C, bleidleisio gyda’r Torïaid I wrth y cynnig a gadael S4C heb unrhyw amddiffyniad rhag mympwy’r Ysgrifennydd Gwladol Torïaidd,” meddai Dafydd Wigley.

“Dyma’r math o frad sy’n nodweddu’r Lib dems. Ddyla pleidleiswyr Ceredigion beidio ymddiried ynddyn nhw o gwbwl.”