Nick Bourne
Fe fydd y Ceidwadwyr yn cadw at eu haddewid i warchod gwario’r Gwasanaeth Iechyd yn llwyr os byddan nhw’n ffurfio Llywodraeth yng Nghymru.

Fe fydd maniffesto’r blaid yn cael ei lansio heddiw yn Llandudno – yr ola’ o raglenni gwleidyddol y prif bleidiau.

‘Llais Newydd i Gymru’ yw thema’r maniffesto sydd hefyd yn addo gwella perfformiad yr economi a ferswin Cymru o ‘Gymdeithas Fawr’ David Cameron.

Ym maes addysg, fe fyddai’r Ceidwadwyr yn addo bod arian yn mynd yn uniongyrchol o Lywodraeth y Cynulliad i ysgolion yn hytrach na thrwy ddwylo’r cynghorau sir.

Dyblu canran siaradwyr Cymraeg

Ac mae yna addewidion am yr iaith Gymraeg hefyd – i gael hanner pobol y wlad yn siarad yr iaith o fewn 40 mlynedd – gan fwy na dyblu’r canran presennol – ac i roi marc siarter i fusnesau sy’n defnyddio’r Gymraeg.

Roedd Llafur wedi gadael i Gymru ddirywio, meddai arweinydd Ceidwadwyr Cymru, Nick Bourne, yn ei ragair.

“Gallwn adeiladu Cymru fwy cyfoethog lle mae cymunedau’n gallu ffynnu,” meddai.