Carwyn Jones
Fe fydd Llafur yn gwrthwynebu bwriad Llywodraeth y Glymblaid yn Llundain i roi hawliau codi treth incwm i Lywodraeth y Cynulliad.

Mae hynny’n glir ym maniffesto’r blaid sydd wedi ei gyhoeddi heddiw ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad – y teitl yw “Sefyll Cornel Cymru”.

Mae dolenni i’r holl faniffestos hyd yn hyn ar waelod y stori hon

Un o brif negeseuon y ddogfen 114 tudalen yw y bydd Llafur yn ceisio gwarchod Cymru rhag effeithiau’r toriadau.

Yn ei ragair, mae’r arweinydd Cymreig, Carwyn Jones, yn dweud bod “Cymru yn ddiogel” yn nwylo Llafur ac mae rhagair gan y llefarydd ar Gymru yn Llundain, Peter Hain, yn dweud bod y toriadau gwario Prydeinig yn “brifo” ac “nid yn gweithio”.

“Byddwn yn rhoi fflam gobaith i Gymru, sydd yn cyferbynnu â thoriadau llywodraeth glymblaid y Deyrnas Unedig o dan arweiniad y Torïaid,” meddai Carwyn Jones.

Wrth ei lansio ym Mro Morgannwg heddiw, fe ddisgrifiodd y ddogfen fel y “maniffesto mwyaf cynhwysfawr a radical yn hanes y Cynulliad.”

“Mae’n faniffesto sy’n llawn addewidion a’r addewidion hynny wedi eu costio,” meddai. “Mae’n llawn syniadau newydd ac mae’n cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol.”

Y pum prif addewid

Mae’r maniffesto’n arwain gyda’r deg addewid sydd wedi eu gwneud eisoes – addewid i gadw pum cynllun, fel brecwastau am ddim mewn ysgolon, a phum cynllun newydd.

Dyma yw’r rheiny:

  • Cronfa swyddi a hyfforddiant i greu gwaith, yn arbennig i bobol ifanc.
  • Ei gwneud hi’n haws gweld meddyg fin nos ac ar ddydd Sadwrn.
  • Cynnydd o 1% yn fwy na’r grant o Lundain ar gyfer ysgolion.
  • Creu 500 o swyddogion heddlu cymunedol.
  • Dyblu nifer y plant o dan 3 oed sy’n cael cymorth trwy’r cynllun Dechrau’n Deg, gyda llefydd meithrin, ymweliadau iechyd a chymorth i deuluoedd.

Mae’r ddogfen yn addo parhau gyda llawer o’r polisïau y mae Llafur yn eu hystyried yn llwyddiant ac mae llawer o addewidion i adolygu, cefnogi a gweithio tuag at wahanol ddyheadau.

Rhai o’r addewidion

Mae yna hefyd rai syniadau newydd sy’n debyg o gael mwy o sylw na’r lleill. Dyma rai:

Ynni – Bydd y Prif Weinidog ei hun yn cymryd cyfrifoldeb am bolisi ynni ac fe fyddai Llafur yn pwyso am fwy o reolaeth i’r Cynulliad tros gynlluniau mawr. Maen nhw hefyd o blaid gwneud defnydd o lanw aber Afon Hafren.

Trafnidiaeth – Sefydlu Awdurdod neu Awdurdodau Trafnidiaeth ar y Cyd i gyd-drefnu trafnidiaeth gyhoeddus, ystyried creu cwmni nid-er-elw i redeg trenau yng Nghymru – ar batrwm Glas Cymru ym maes dŵr.

Economi – pwyslais ar hyfforddiant, gwasanaeth Paru Prentisiaeth i fatsio prentisiaid gyda chyfleoedd. Cymorth i bob sector economaidd – yn groes i’r pwyslais diweddar ar rai meysydd. Ystyried creu corff safonau masnach i Gymru gyfan.

Llywodraeth – y prif newid fyddai’r pwyslais ar greu trefn i wella gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys Comisiwn Annibynnol i oruchwylio hynny ac Academi i feithrin arweinwyr ym maes y gwasanaethau.

Addysg – Gan ddilyn cyhoeddiadau diweddar, fe fyddai’n rhaid i ysgolion wneud mwy o asesu a chyhoeddi adroddiadau ar sail tebyg, er mwyn cymharu. Fe fyddai prifysgolion yn cael eu gorfodi i uno.

Y Maniffestos hyd yn hyn:

Democratiaid Rhyddfrydol – yma

Llafur Cymru – http://welshlabour.s3.amazonaws.com/maniffesto-llafur-cymru.pdf

Plaid Cymru – http://www.plaidcymru.org/uploads/Manifesto_2011/SION_Main_maniffesto_Welsh_SP.pdf

Plaid Werdd – Cymraeg