Apelio am ail bleidlais pobl Cymru – yn enwedig pleidleiswyr Llafur – y bydd y Blaid Werdd wrth lansio ei maniffesto heddiw.

Mae ei neges yn canolbwyntio ar yr angen i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus ac i fuddsoddi mewn swyddi carbon isel.

“Fe fydd aelodau’r Blaid Werdd yn y Cynulliad yn gweithio i gyfyngu effeithiau niwed toriadau’r Llywodraeth ac yn dadlau dros fuddsoddiad mewn swyddi newydd yn yr economi carbon isel,” meddai Jake Griffith, Arweinydd Plaid Werdd Cymru.

“Rydan ni yn cefnogi’r syniad o wasanaethau cyhoeddus o ansawdd yn ogystal â system les sydd yno pan mae pobl ei angen.”

 Roedd yn dweud hefyd fod y Cynulliad angen rhagor o rymoedd ariannol i godi refeniw i fynd i’r afael â’r difrod gafodd ei achosi a’r swyddi a gollwyd yn sgil toriadau gwariant y Llywodraeth.

 Mae’r Blaid Werdd wedi lansio apêl benodol i gefnogwyr Llafur – gan ddweud mewn pedwar allan o bump o ardaloedd , nad yw Llafur wedi ethol ACau rhanbarthol.

 “Mae galw Llafur i bobl bleidleisio Llafur ddwywaith yn fwy tebygol o ethol y Torïaid, Democratiaid Rhyddfrydol  neu Blaid asgell dde arall yn hytrach na phlaid fel y Gwyrddion  sydd wedi ymrwymo i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus ac adeiladu economi carbon isel,” meddai.

 Mae’r Gwyrddion wedi lansio gwefan newydd  www.2ndvotegreen.org.uk  gyda fideo yn egluro’r system bleidleisio .

 Ymhlith prif bolisïau’r Blaid Werdd mae mynd i’r afael â thlodi tanwydd, gwneud yr economi’n fwy lleol a chefnogi trafnidiaeth gyhoeddus i leihau tanwydd ffosil, buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.