Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, a lansiodd faniffesto ei phlaid yn Aberaeron heddiw
Fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol lansio’u maniffesto yn Aberaeron y bore yma, gyda’r addewidion yn y llyfr dwyieithog 132 wedi eu rhannu’n chwe phrif adran.

Dyma grynodeb ohonyn nhw:

YR ECONOMI

Cynnig £2,000 i gwmnïau hyfforddi eu staff os ydyn nhw’n cynnig swyddi i bobl ifanc ddi-waith

Sefydlu Cyfnewidfa Stoc i Gymru

Denu buddsoddiad o’r sector preifat i wella darpariaeth band llydan

Aildrafod contract Trenau Arriva Cymru

Pwyso am i drydaneiddio rheilffordd y Cymoedd gychwyn yn 2014

DIWYLLIANT

Gwneud Dydd Gŵyl Ddewi’n ddiwrnod o wyliau cyhoeddus yng Nghymru

Ceisio denu’r Tour De France a gêm bêl-droed Americanaidd i Gymru

Cael gwared ar y cynllun Cymunedau’n Gyntaf

Rhewi trethi busnes am 12 mis

Mynd i’r afael â’r diffyg merched mewn swyddi uchel yn y Llywodraeth

Pasio Mesur Hawliau Cymunedol – cryfhau pwerau awdurdodau lleol a chynghorau cymuned

ADDYSG

Mynd i’r afael â’r bwlch mewn ariannu a sefydlu “premiwm disgyblion” y bydd yn darparu hyd at £2,500 ar gyfer y plant tlotaf yng Nghymru

Cael gwared ar Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru

Gwarantu’r hawl i athrawon gael blwyddyn sabothol ddi-dâl i ddilyn astudiaethau academaidd

Mwy o bwerau i athrawon fynd i’r afael â disgyblaeth wael yn yr ystafell ddosbarth

Talu ffioedd dysgu ychwanegol uwchlaw’r lefel bresennol i fyfyrwyr Cymru, waeth lle maent yn astudio yn y Deyrnas Unedig

IECHYD

Torri amserau aros trwy leihau gwariant gwastrafflyd gan y Gwasanaeth Iechyd

Ariannu Ambiwlans Awyr Cymru i ddarparu gwasanaeth saith diwrnod yr wythnos

Gweithredu cynllun canser cenedlaethol

Darparu gofal 24 awr gan feddygon teulu a nyrsys i drin mân anafiadau

Ei gwneud hi’n orfodol i leoedd sy’n gwerthu bwyd i arddangos eu graddau hylendid ar y safle

YR AMGYLCHEDD

Gwneud 12,000 o gartrefi’n gynhesach trwy ddyblu gwario ar dlodi tanwydd

Gwneud holl adeiladau newydd y sector cyhoeddus yn effeithlon o ran ynni erbyn 2015

Hyrwyddo cynlluniau trydan gwynt ar y môr a rhai llanw’r môr trwy gynnig symbyliadau ariannol i gwmnïau sy’n cynhyrchu ynni

Diddymu’r cymorthdaliadau i’r gwasanaeth awyr rhwng y de a’r gogledd, yn ogystal ag i feysydd awyr a chwmnïau awyrennau

Diwygio’r cynllun amaethyddol Glastir

Lleihau cyfyngiadau cynllunio ar gyfleusterau biomas ar raddfa fach

GWLEIDYDDIAETH

Sicrhau bod Cod Ymddygiad Gweinidogion yn cael ei blismona gan gorff annibynnol

Cynhyrchu fersiwn symlach o gyllideb flynyddol y Cynulliad ar gyfer aelodau’r cyhoedd

Rhoi’r grym i bwyllgor alw’n ôl weinidogion sy’n methu ateb cwestiynau’n iawn

Pwys am gyllid teg i Gymru o San Steffan trwy gael cynllun seiliedig ar anghenion i gymryd lle fformiwla Barnett

Cyflwyno’r system Bleidlais Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau cynghorau lleol

Diddymu’r pwerau sy’n caniatáu i weinidogion y Cynulliad uno cynghorau trwy orchymyn

Rhoi mwy o ryddid i gynghorau lleol trwy gyflwyo “pŵer o gymhwysedd cyffredinol ”

Caniatáu i gynghorau ddefnyddio arian a godwyd trwy drethi busnes ar gyfer cynlluniau adfywio