Mae Undeb Amaethwyr Cymru’n galw ar fusnesau i gysylltu â’r Heddlu os ydyn nhw’n derbyn galwadau ffôn bygythiol oddi wrth grwpiau, fudiadau neu unigolion sy’n gwrthwynebu difa moch daear.

 Yn ôl yr undeb, mae nifer o fusnesau o amgylch Cymru wedi bod yn derbyn galwadau dros y diwrnodau diwethaf yn gofyn am fanylion eu polisïau ynghylch y difa moch daear arfaethedig yng ngogledd Sir Benfro.

 Mae rhai pobl wedi bod yn cwyno bod y galwadau’n eithaf bygythiol ac wedi’u hysgwyd.

 “Does gan yr unigolion hyn ddim hawl i ddychryn pobl fel hyn, ac os ydi pobl yn teimlo eu bod nhw wedi’u haflonyddu – fe ddylen nhw gysylltu â’r Heddlu ar 101,” meddai llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Gareth Vaughan.

 Bwlio’

 “Ni ddylai busnesau gael eu bwlio i mewn i ddal barn ar rywbeth pan mae ganddyn nhw bob hawl i aros yn niwtral – neu i beidio datgelu barn,”  meddai, gan dweud nad oes lle i ymddygiad o’r fath mewn “cymdeithas ddemocrataidd”.

 Mae’r Heddlu wedi cynghori unrhyw un sy’n derbyn galwadau o’r fath i wneud cofnod o’r alwad gyda chymaint o fanylion ac sy’n bosibl gan gynnwys amser yr alwad, enw’r unigolyn  ac iddyn nhw geisio darganfod rhif y person a wnaeth alw trwy ddeialu 1471.

 Mudiad yn gwadu

 Mae un mudiad sy’n ymgyrchu yn erbyn lladd moch daear yn gwadu eu bod nhw’n gyfrifol am alwadau o’r fath.

 Fe ddywedodd llefarydd ar ran grŵp Atal y Cwlio Sir Benfro wrth Golwg360 mai gyda phapurau newydd a chyfryngau’n unig yr oedd y grŵp wedi cysylltu â nhw.

 “Ond, dw i’n meddwl y dylai grwpiau allu ffonio o amgylch busnesau os ydyn nhw eisiau hefyd – heb fod yn fygythiol, wrth gwrs. Peth heddychlon ydi o,” meddai.

 Mae’r grŵp Atal y Cwlio Sir Benfro yn digrifio’u hunain fel “tirfeddianwyr, ffermwyr a phobl sy’n byw yn ardal arfaethedig y cwlio.”

 Maen nhw’n dweud ar eu gwefan eu bod nhw’n “cydnabod effaith TB ar y gymuned ffermio” ac yn ei ystyried yn beth difrifol. Ond maen nhw’n gwrthwynebu difa moch daear oherwydd bod “profion gwyddonol wedi dangos ei fod yn annhebygol o helpu”.