Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan
Mae nifer y di-waith yng Nghymru wedi codi 3,000 i 126,000 dros y chwarter diwethaf – er gwaethaf gostyngiad yn y cyfanswm cyffredinol trwy Brydain.

Mae’r ffigurau diweddaraf sydd newydd gael eu cyhoeddi’n dangos cwymp o 17,000 yng nghyfanswm Prydain, gyda gostyngiadau yng nghanolbarth a de-ddwyrain Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gwrthbwyso cynnydd yng Nghymru a gogledd Lloegr.

Dal i gynyddu mae diweithdra ymysg pobl ifanc rhwng 18 a 24 oed, gyda bron i filiwn bellach yn segur trwy Brydain.

Ar yr un pryd mae’r cyfanswm o bobl mewn gwaith wedi cynyddu 143,000 i 29.23 miliwn trwy Brydain – er bod y ffigur hwn yn dal i fod 331,000 yn is na’r uchafbwynt ym mis Mai 2008 cyn y dirwasgiad.

Fe fu cynnydd o 2,000 yng Nghymru’n ogystal, gyda 1.334 miliwn bellach mewn gwaith, ac mae hyn yn rhywbeth i’w groesawu, yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan.

“Dw i’n croesawu’r cynnydd yn y nifer o bobl mewn gwaith, ond mae’r cynnydd bach mewn diweithdra’n awgrymu bod yr adfywiad economaidd yn dal i fod yn fregus,” meddai.

“Rhaid inni ddal i fod yn wyliadwrus er gwaetha’r arwyddion addawol, gan fod yr ystadegau diweddaraf yn dangos bod angen inni ddwysáu’n hymdrechion i atal y cynnydd mewn diweithdra.

“Mae gan lywodraeth Prydain a Llywodraeth Cynulliad Cymru gyfrifoldeb i greu’r amodau iawn dros dwf economaidd, buddsoddiad a swyddi yng Nghymru a byddwn yn parhau i anfon neges glir fod gwaith yn talu.”