Arwydd un o'r ffatrioedd (o wefan y cwmni)
Fe fydd gwaith peiriannau ceir ar Lannau Dyfrdwy’n rhoi’r gorau i gynhyrchu am rai dyddiau yn niwedd mis Ebrill.

Ac mae disgwyl i lefelau cynhyrchu fod yn llai ym mis Mai hefyd yn ffatrïoedd Toyota yno ac yn Burnaston ger Derby – fe fydd yn effeithio ar gyfanswm o fwy na 3,000 o weithwyr a thua 500 yng Nghymru.

Prinder cydrannau o Japan sy’n cael y bai am y penderfyniad a fydd yn cau’r gwaith yn Sir y Fflint rhwng 21 Ebrill a 3 Mai.

Fe allai’r problemau olygu cau yn ystod gweddill mis Mai hefyd, ond fe fydd y cwmni’n trafod gyda chynrychiolwyr y gweithwyr cyn penderfynu.

Yn ôl Toyota, mae darogan y bydd cydrannau’n brin yn ystod y cyfnod nesa’ oherwydd effeithiau’r daeargryn a’r tswnami ar ffatrïoedd yn Japan.