Gruff Rhys
Fe fydd Gruff Rhys yn cyhoeddi sengl ‘Honey All Over’ ar 23 Mai.

Roedd prif ganwr y Super Furry Animals wedi cyhoeddi albwm unigol, Hotel Shampoo, ers 14 Chwefror ac wedi bod yn teithio i hyrwyddo’r albwm ers hynny.

Honey All Over ydy’r drydedd sengl i’w chodi o’r albwm yn dilyn Shark Ridden Waters ym mis Hydref llynedd a Sensations in the Dark a gyhoeddwyd yr un pryd â’r albwm.

Fe fydd y sengl ar gael i’w phrynu ar finyl 12” ac i’w lawr lwytho’n ddigidol.

Yn ogystal â’r prif drac, mae’r sengl yn cynnwys cân newydd ‘Xenodocheionology’.

Gwestai yn ysbrydoli

Fel mae enw’r albwm yn awgrymu, mae’r thema o westai yn amlwg iawn yng nghynnyrch diweddaraf Gruff Rhys, ac mae hynny’n parhau gyda’r gân newydd .

Mae’n debyg mai ystyr ‘Xenodocheionology’ ydy’r  cariad neu angerdd a deimlir gan unigolyn tuag at westai, a bydd Gruff yn gwneud defnydd helaeth o’r llefydd hynny dros y misoedd nesaf.

I gyd-fynd â’r sengl newydd, mae Gruff Rhys wedi cyhoeddi cyfres o gigs fydd yn ei arwain i Singapore, Awstralia, Malaysia a’r Unol Daleithiau.

Y Niwl yn cefnogi

Mae’r grŵp syrff Cymraeg, Y Niwl, sydd wedi bod yn cefnogi Gruff yn ei gigs diweddar yn ogystal â pherfformio fel band cefndirol iddo.

Byddan nhw eto’n ymuno ag o eto yn yr Unol Daleithiau, ac wrth iddo ymddangos yn rhai o wyliau mwyaf yr haf gan gynnwys Glastonbury, Truck, Gŵyl y Dyn Gwyrdd ac End of the Road.