Mae cwmni Network Rail wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu gwario £200m er mwyn lleddfu’r tagfeydd ar reilffyrdd Caerdydd a chymoedd y de.

Dywedodd y cwmni y byddai’r gwelliannau i orsafoedd, traciau ac offer signalau yn dyblu gallu rheilffyrdd yr ardal i gario teithwyr.

Mae nifer y teithwyr wedi cynyddu 8% ar gyfartaledd bob blwyddyn, medden nhw, ac fe fydd mwy na 12 miliwn o bobol yn teithio ar drenau’r ardal bob blwyddyn erbyn diwedd 2015.

Byddai’r newidiadau yn caniatáu i bedwar trên ychwanegol bob awr deithio drwy Gaerdydd. Mae 900 yn teithio drwy’r brifddinas bob dydd ar hyn o bryd.

“Mae rheilffordd ddibynadwy yn rhan annatod o unrhyw economi sy’n ffynnu,” meddai Mike Gallop o Network Rail, y cwmni sy’n rheoli rhwydwaith rheilffyrdd Prydain.

Bydd y gwaith yn dechrau yn 2011 ac yn dod i ben mewn tair blynedd.

Dechrau’r mis diwethaf cyhoeddwyd y byddai rheilffordd De Cymru’n cael ei thrydaneiddio cyn belled â Chaerdydd.

Mae Llywodraeth San Steffan hefyd yn ystyried trydaneiddio rhai llinellau allan o Gaerdydd – i’r Cymoedd a Bro Morgannwg.

Maen nhw’n parhau i ystyried y syniad o estyn y trydaneiddio ymhellach, i Abertawe.