Alun Gaffey (ar y chwith)
Mae gitarydd y Race Horses, Alun Gaffey, wedi penderfynu gadael y band.

Mae Golwg 360 ar ddeall nad oedd yn teimlo ei fod yn gallu dilyn y band, oedd yn arfer perfformio dan yr enw Radio Luxembourg, wrth iddyn nhw deithio’n fwyfwy aml.

Dywedodd Dylan Hughes, sy’n chware’r allweddell, y gitâr ac yn canu yn y band wrth Golwg360 bod Alun Gaffey yn gadael am nad oedd yn gallu ymrwymo ei hun i deithio â’r band yn y dyfodol.

“Fe ddaeth pethau i ddiwedd naturiol,” meddai, cyn ychwanegu eu bod nhw “dal yn ffrindiau gorau” ac yn  “dal yn cyfarfod a dal i fyny”.

Ychwanegodd y bydd y band yn “chwilio am aelodau newydd” i gymryd ei le.

“Mae Alun yn ffrind i ni gyd ac yn wych ar y gitâr. Rydan ni wedi cael amser gwych yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae e wedi chwarae gyda fi a Meilir ers tua 2005.”

Mae Golwg 360 wedi ceisio cysylltu ag Alun Gaffey, o Bethel, ond heb gael ateb.

Fe gafodd Race Horses, band Pop seicadelic eu ffurfio yn Aberystwyth yn 2005.

Mae’r aelodau cyfoes y band yn cynnwys Meilyr Jones, Dylan Hughes a Gwion Llewelyn.