Nerys Evans
Mae Plaid Cymru wedi lansio eu maniffesto ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad gan ddweud nad oes gan y Blaid Lafur unrhyw uchelgais dros Gymru.

Dywedodd y Blaid na ddylai pobol Cymru ganiatáu i Lafur, “gyda’u record o fethiant, gyfyngu ar allu Llywodraeth y Cynulliad i drawsnewid Cymru”.

“Mae Plaid Cymru eisiau i’r etholiad hwn fod yn frwydr syniadau, gyda gweledigaeth am greu Cymru gryf, hyderus a ffyniannus,” meddai Nerys Evans, ymgeisydd y Blaid yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro.

“Hyd yma, Plaid Cymru yn unig sydd wedi cynnig y weledigaeth honno a’r gobaith hwnnw i Gymru – allwn ni ddim fforddio 5 mlynedd mwy o fethiant a diffyg uchelgais Llafur.”

Wrth lansio’r maniffesto addawodd Plaid Cymru feddwl o’r newydd i fynd i’r afael â’r problemau economaidd, addysgol ac iechyd mawr sy’n wynebu Cymru heddiw.

Addawodd y Blaid wneud hynny er gwaethaf cyllidebau sy’n crebachu, gan ddweud eu bod nhw’n wahanol i Lafur “sydd eisiau cyfyngu ar allu’r Cynulliad i gyflwyno newid”.

“Heddiw, yn dilyn ymgynghoriad a barodd dros flwyddyn ac sydd wedi cynnwys cannoedd o bobl, rydym yn cyhoeddi maniffesto sydd, yn ein barn ni, yn cyrraedd y nod – mae’n feiddgar, mae’n ymarferol, yn fforddiadwy, ac o’i weithredu, gall arwain ar drawsnewid ein heconomi a rhai o’n gwasanaethau cyhoeddus allweddol,” meddai Nerys Evans.

Mae’r Blaid wedi cyhoeddi pedair addewid allweddol cyn yr ymgyrch etholiadol:

Sicrhau y gall plant sy’n gadael yr ysgol gynradd ddarllen, ysgrifennu a chyfrif i’r safon disgwyliedig.

Creu cwmni ‘nid-am-elw-dosbarthiadwy’ fydd yn buddsoddi mewn ysgolion, ysbytai, tai a thrafnidiaeth ac yn “creu hyd at 50,000 o swyddi newydd” ar draws Cymru.

Sicrhau gofal iechyd cyflymach a mwy effeithiol trwy ei gwneud yn haws cyrraedd meddygon teulu, deintyddion a gweithwyr meddygol proffesiynol eraill pan fydd eu hangen.

Cysylltu Cymru ar gyfer yr 21ain ganrif gyda gwell derbyniad signal ffonau symudol, wifi a band eang, a sustem drafnidiaeth fodern i symud ein cenedl ymlaen.