Blaenau'r Cymoedd
Mae Coed Cadw Cymru (The Woodland Trust) wedi galw am wneud Cymoedd y de ddwyrain yn barc coedwig cenedlaethol.

Mae’r ymddiriedolaeth wedi galw ar yr ymgeiswyr yn Etholiadau’r Cynulliad i gefnogi’r cynnig gan ddweud y byddai’n newid barn y cyhoedd am yr ardal.

“Mae pobol o Gymru sy’n ymweld â’r Cymoedd yn gwybod eu bod nhw wedi newid llawer iawn ers dyddiau’r pentyrrau o slag,” meddai Rory Francis o Goed Cymru.

“Ond mae safon yr amgylchedd lleol wedi gwella’n sylweddol dros y 30 mlynedd diwethaf, diolch i waith caled y Comisiwn Coedwigaeth.

“Fe fyddai’n braf mynd â phethau gam ymhellach a gwneud y Cymoedd yn barc coedwig cenedlaethol.”

Byddai coedwigoedd newydd yn cael eu plannu gerllaw hen goedwigoedd er mwyn rhoi rhagor o gyfle i fywyd gwyllt ffynnu yn yr ardal, meddai.

Mae’r ymddiriedolaeth yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i ddyblu gorchudd coedwigoedd Cymru dros y 50 mlynedd nesaf.