Cyfri pleidleisiau
Ni fydd canlyniad terfynol Etholiadau’r Cynulliad ar 5 Mai yn dod i’r amlwg nes y diwrnod canlynol.

Cadarnhaodd swyddog adroddol rhanbarth gogledd Cymru ei fod wedi penderfynu dechrau cyfri’r pleidleisiau’r bore ar ôl yr etholiad yn hytrach na dros nos.

Mae’n pryderu fod gormod o waith eleni gan fod angen cyfri pleidleisiau’r refferendwm ar newid y system bleidleisio yn ogystal â’r pleidleisio rhanbarthol ac etholaethol.

Bydd gweddill Cymru yn bwrw ymlaen â’r cyfri yn syth ar ôl i’r blychau pleidleisio gau am 10pm.

Ddoe roedd Llywydd y Cynulliad, Dafydd Elis-Thomas, wedi ysgrifennu at y swyddog adroddol, Mohammed Mehmet, yn galw arno i ailystyried.

Dywedodd y byddai pobol sydd wedi mynd i’r drafferth i bleidleisio yn disgwyl cael gwybod y canlyniad “cyn gynted a bo modd”.

Awgrymodd y gallai pleidleisiau’r seddi rhanbarthol gael eu cyfrif yn ddiweddarach, ond y dylai canlyniadau’r seddi etholaethol gael eu cyhoeddi cyn iddi wawrio.

Yn ei lythyr at Mohammed Mehmet dywedodd y dylai “canlyniadau Etholiad Cyffredinol Cymru fod yn hysbyseb i bawb yn y wlad ar yr un adeg”.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, ei bod hi’n cytuno y dylai’r cyfri ddigwydd yr un pryd ym mhob cwr o Gymru.

“Rydw i’n cytuno gyda’r Llywydd. Fe fydd pobol Cymru yn pleidleisio ar 5 Mai ac maen nhw’n disgwyl y bydd y canlyniadau yn cyrraedd yr un pryd yn fuan wedyn,” meddai.