Bradley Davies
Cafodd un o chwaraewyr rhyngwladol Cymru, Bradley Davies, ei arestio nos Sadwrn ar ôl adroddiadau fod nifer o bobol fod yn ymladd y tu allan i dafarn yn Sir Benfro.

Roedd y blaenwr 24 oed, sy’n chwarae dros ranbarth y Gleision, yn un o ddau ddyn gafodd eu harestio ôl y frwydr y tu allan i darfan The Deck yn Saundersfoot toc cyn 10pm nos Sadwrn.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod dau ddyn 25 a 24 oed wedi eu harestio a’u rhyddhau ar fechnïaeth. Doedd rhanbarth y Gleision ddim yn fodlon cynnig sylw wrth i’r ymchwiliad barhau.

Mae Bradley Davies wedi ennill 22 cap dros ei wlad, a 46 cap dros y Gleision.