Llys y Goron Abertawe
Mae pâr priod gafodd eu carcharu am ddwyn cannoedd o filoedd o bunnoedd o elusen wedi cael gwybod y bydd rhaid iddyn nhw dalu £162,000 yn ôl.

Cafodd Dale Foster, 66, a’i wraig Sally, 53, o Trawler Road, Abertawe, eu carcharu am chwe blynedd yr un ym mis Mai 2009.

Clywodd Llys y Goron Abertawe eu bod nhw wedi cymryd arian o’r Canolfan Gynghori yr oedden nhw yn ei reoli.

Roedd rhywfaint o’r £1.2 miliwn ddaeth i mewn i’r swyddfa yn Rhydaman dros gyfnod o bedair blynedd yn cael ei ddefnyddio i gynnal y ganolfan, ond roedd y ddau wedi dwyn £575,000 er mwyn ariannu eu ffordd o fyw afradlon.

Heddiw clywodd Sally Foster y byddai’n rhaid iddi dalu £148,519 yn ôl o fewn 12 mis, neu wynebu dwy flynedd a chwe mis arall yn y carchar ar ben ei dedfryd wreiddiol.

Gorchmynnwyd ei gŵr Dale i dalu £14,414 o fewn 12 mis, neu wynebu naw mis ychwanegol yn y carchar.