Llun o wefan yr ŵyl
Mae grŵp Cristnogol yn bwriadu picedu Mardi Gras cyntaf Gogledd Cymru dros y penwythnos.

Dywedodd grŵp Christian Voice wrth Golwg360 mai nod aelodau’r grŵp fydd “pamffledu ac yn siarad â’r cyhoedd” wrth fynedfa’r digwyddiad ger Gwalchmai ar Ynys Môn.

“Ein neges ni fod rhaid i bawb fyw o fewn cyfreithiau Duw. Mae gwrywgydiaeth yn mynd yn gwbl groes i orchymyn yr Arglwydd,” meddai Stephen Green, Cyfarwyddwr Gweinidogaeth Christian Voice yng Nghaerfyrddin, wrth Golwg360.

Dydw i ddim yn credu fod unrhyw un yn cael ei eni’n hoyw,” meddai cyn dweud mai “emosiynau a’r meddwl” sy’n llunio rhywioldeb person.

“Rydan ni eisiau cysylltu â nhw a dweud bod yna ffordd well o fyw,”  meddai. “Os ydi rhywun wir eisiau newid a byw dan Iesu Grist, mae iachâd yn bosibl.

“Bydd yr holl bechaduriaid, gan gynnwys gwrywgydwyr, yn mynd i dân uffern,” meddai cyn dweud mai ei brif obaith yw y bydd y genedl yn “edifarhau”  a “throi at Dduw”.

Doedd Stephen Green ddim yn fodlon datgelu faint o aelodau sydd gan ei weinidogaeth yng Nghaerfyrddin.

‘Gwerthiant tocynnau’n well’

Dywedodd Keith Parry, un o drefnwyr y Mardi Gras, wrth Golwg360 ei fod yn disgwyl y bydd y sylw a ddaw yn sgil bygythiad Christian Voice yn helpu i werthu tocynnau.

Mae “tocynnau eisoes wedi gwerthu’n well dros y penwythnos,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn poeni eu bod nhw’n dod o gwbl. Fydd pobol ddim yn cymryd sylw ohonyn nhw. Fe fydd y ffair yn gwneud cymaint o sŵn, fydd neb yn eu clywed nhw.

“Dydw i ddim eisiau i bobl guddio eu rhywioldeb – os ydyn nhw’n teimlo fel gafael dwylo a chusanu dw i eisiau iddyn nhw wneud hynny a pheidio talu sylw iddyn nhw.”

‘Dim lle i anwybyddu’

Dywedodd y Parch. Emlyn Richards, sydd gweithio gyda’r Eglwys Bresbyteraidd ar yr ynys ers blynyddoedd, na fyddai’n “mynd mor bell a chefnogi” y Mardi Gras ond na fyddai chwaith yn ei “wrthwynebu”.

“Mae fy ffydd yn dweud na ddylid anwybyddu neu ddibrisio unrhyw un,” meddai wrth Golwg360.

“Mae’n rhaid i ni gofio ein bod ni’n byw yn negawd cyntaf y 21ain Ganrif, sy’n fyd hollol wahanol i ganol yr ugeinfed ganrif.

“Mae’n anodd iawn, iawn mynd mor bell a gwrthwynebu unrhyw un sy’n hoyw.”

Cyhoeddusrwydd

Dywedodd y Cynghorydd Owen Glyn Jones, Aberffraw, wrth Golwg360 ei fod yn “pryderu” fod y digwyddiad yn cael “cymaint o gyhoeddusrwydd”, ac nad oedd yn credu y dylai plant gael mynd yno.

“Dydw i ddim yn ei weld o’n beth naturiol. Dydw i ddim yn hoyw a dydi fy nheulu i ddim yn hoyw,” meddai.

“Dydw i ddim yn credu y dylai plant bach ifanc fynd – rhai sydd ddim yn sicr am eu teimladau eu hunain.”

Dywedodd y Cynghorydd Robert Parry, sy’n cynrychioli’r ward fydd yn cynnal y digwyddiad, mai dim ond un person oedd wedi crybwyll y peth.

“Pawb at y peth y bo. Ni fydd y digwyddiad yn gwneud drwg,” meddai.

“Gobeithio y bydd pobl yn gwario mymryn o arian yn Sir Fôn hefyd. Yr unig beth ’dw i’n gobeithio ydi na fydd yna unrhyw drwbl – dw i eisiau i bobl fwynhau yno ac wedyn gadael.