Clawr Y Ddau Ryfel Byd Enbyd
Mae arbenigwr ar Hedd Wyn wedi beirniadu llyfr hanes i blant sy’n cyflwyno hanes y bardd enwog o Drawsfynydd mewn modd digrif.

Mae’r llyfr Y Ddau Ryfel Byd Enbyd, sy’n rhan o gyfres Hanes Atgas, yn cynnwys pennod am fywyd a marwolaeth Hedd Wyn.

Ond dywedodd Alan Llwyd, sydd wedi ysgrifennu llyfr ar Hedd Wyn yn ogystal â sgriptio ffilm am ei fywyd a enwebwyd am Oscar, nad oedd yn credu mai drwy ddweud jôcs oedd cyflwyno hanes y bardd i blant.

Mae’r llyfr gan Catrin Stevens yn cyflwyno “darlun erchyll o ffeithiau am gyfraniad Cymru i’r ddau ryfel byd”.

Yn ôl y llyfr mae athrawon yn hoffi “stwffio’r stori sentimental [Hedd Wyn] i lawr eich corn gwddf bob cyfle gân’ nhw”.

Mae yna hefyd sylw am farwolaeth y bardd ar faes y gad – “Dim ond am ddwy awr y bu Hedd Wyn ar faes y gad o gwbl! ‘Na bechod!”

Mae’r llyfr hefyd yn adrodd hanes Hedd Wyn yn ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw ar ôl marw ym mrwydr Passchendaele, gan ddweud na “fyddai ganddo fe ddim llawer o ddefnydd iddi nawr, wrth gwrs”.

Mae clawr y llyfr yn cynnwys sgerbwd Hedd Wyn yn sefyll o flaen cadair yr eisteddfod, â’r Archdderwydd yn dal dryll i fyny yn lle’r cleddyf traddodiadol.

“Mae’r llyfr yn ceisio tynnu coes ar rywbeth sy’n drasig ac mae hynny’n bechod,” meddai Alan Llwyd.

“Mae Hedd Wyn yn cael ei gofio am fod yn fachgen cyffredin oedd wedi cyflawni camp fawr.

“Mae’n cynrychioli cenhedlaeth lle’r oedd miloedd wedi colli eu bywydau.

“Nid yw’r llyfr yma’n cyfleu trasiedi’r genhedlaeth yma ac nid yw’n fodd addas o gyflwyno hanes y bardd.

“Pam na fyddai’r llyfr yn bychanu’r gwleidyddion a phenaethiaid y fyddin adeg y rhyfel yn hytrach na’r milwr cyffredin?”