Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi penderfynu nad oes digon o dystiolaeth i erlyn aelod o’r BNP gafodd ei arestio ar amheuaeth o losgi copi o’r Qur’an.

Cafodd Sion Owens, sy’n ymgeisydd dros y blaid ar restr ranbarthol De Orllewin Cymru, ei gyhuddo o droseddu yn erbyn y drefn gyhoeddus ddoe.

Ymddangosodd o flaen Llys Ynadon Abertawe heddiw, ond cyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron eu bod nhw’n tynnu’r cyhuddiad yn ei erbyn yn ôl.

Mae’r BNP bellach wedi cadarnhau y bydd y dyn o Bonymaen, Abertawe, yn parhau i sefyll yn yr etholiad ar 5 Mai er iddo gael ei arestio.

Yr wythnos ddiwetha’ y cyhoeddodd y blaid y byddai’n ymgeisydd ar gyfer y sedd ranbarthol.

Rhybudd

Rhybuddiwyd Sion Owens heddiw fod yr heddlu yn parhau i ymchwilio i’r achos ac y dylai ddisgwyl gweithredu pellach.

Daw ei arestiad ar ôl i bapur newydd The Observer ddweud eu bod nhw wedi rhoi fideo i’r heddlu oedd yn awgrymu fod Sion Owens wedi trochi’r Qur’an mewn paraffîn a’i roi ar dân.

Dywedodd yr erlynydd Bryn Hurford yn y llys heddiw fod Sion Owens wedi ei gyhuddo o “feddu ar ddelweddau a synau sy’n eich dangos chi’n llosgi copi o’r Qur’an gan ddweud ‘Dw i’n llosgi’r Qur’an Sanctaidd a dw i’n gobeithio eich bod chi’r Mwslemiaid yn gwylio’”.

Ychwanegodd fod ymchwiliad yr heddlu yn parhau ac y byddai ffeil newydd o dystiolaeth yn cael ei gasglu.

Bydd y ffeil hwnnw yn cael ei roi yn nwylo Gwasanaeth Erlyn y Goron.

“Ni ddylai’r diffynnydd a’i gynrychiolwyr cyfreithiol feddwl fod y penderfyniad i dynnu’r cyhuddiad yn ôl y bore ma yn awgrymu na fydd yr achos yn mynd rhagddo,” meddai Bryn Hurford.

“Mae bron yn sicr y bydd yr achos yn mynd rhagddo.”