Sydney Davies
Sydney Davies o Lyn Ceiriog, Wrecsam, yw enillydd Medal Goffa Syr T.H.Parry-Williams yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Cyflwynir y Fedal yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol fod ei “chyfraniad i fywyd diwylliannol, ieithyddol a chymunedol ei hardal yn amhrisiadwy, ac mae’i brwdfrydedd yn crisialu amcanion Cronfa Goffa Syr T.H. Parry-Williams, a thrwy hynny, mae’n llawn haeddu derbyn y Fedal er clod eleni”.

Bydd Sydney’n derbyn y Fedal ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro , a gynhelir ar dir Fferm Bers Isaf, oddi ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam o 30 Gorffennaf – 6 Awst eleni.  Yn ogystal, fe fydd hefyd yn un o Lywyddion Anrhydeddus y Brifwyl eleni.

Hanes Sydney

Yn wreiddiol o Ddolwyddelan, Dyffryn Conwy, symudodd Sydney Davies i ardal Glyn Ceiriog pan briododd ei gŵr, Theo, ac arhosodd yn yr ardal gan fagu pedwar o feibion.

Dywedodd yr Eisteddfod fod y gymuned leol wedi elwa’n fawr o’i doniau, ei hegni, ei harweinyddiaeth a’i pharodrwydd i gefnogi gweithgareddau a digwyddiadau o bob math.

Mae hi wedi cynnig arweiniad i genedlaethau o blant o bedair i un ar ddeg oed yn yr ardal, gan eu paratoi ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Powys, ac Eisteddfod Glyn Ceiriog, medden nhw.

Bu’n gwirfoddoli yn Ysgol Cynddelw, Glyn Ceiriog, am flynyddoedd lawer ac yn cynnal gwersi canu, cerdd-dant a chanu gwerin i’r plant.

Bu hefyd yn weithgar yn cynnal Ysgol Sul yn y capel lle mae’n flaenor, gan gynnal cyfarfodydd y plant, hyfforddi cymanfaoedd canu, gwasanaethau Nadolig a gwasanaethau’r plant.

Bu hefyd yn annog dysgwyr i gystadlu mewn Eisteddfodau, gan eu gwneud yn ymwybodol o’r iaith a’n diwylliant a dod â Chymry Cymraeg a dysgwyr ynghyd.

Y Fedal

Bu Syr T.H.Parry-Williams yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Awst 1975, yn dilyn ei farwolaeth ychydig fisoedd ynghynt, sefydlwyd cronfa i goffáu’i gyfraniad gwerthfawr i weithgareddau’r Eisteddfod. Gweinyddir y gronfa gan Ymddiriedolaeth Syr Thomas Parry-Williams.