Aamir Siddiqi
Mae Heddlu De Cymru wedi gwneud cais am wybodaeth o’r newydd flwyddyn i’r dydd ers i ddyn gael ei lofruddio yng Nghaerdydd.

Ymosodwyd ar Aamir Siddiqi, 17, yn ei gartref ar Stryd Ninian, y Rhath, tua 1.40pm, ddydd Sul, 11 Ebrill 2010.

Cafodd ei drywanu i farwolaeth ac fe ddioddefodd ei rieni anafiadau difrifol.

Mae’r heddlu eisiau cael gafael ar Mohammed Ali Ege, 32, o ardal Glan yr Afon Caerdydd, ar amheuaeth o gynllwyn i lofruddio.

Dywedodd yr heddlu ei fod yn ddu, pum troedfedd 10 modfedd, yn denau, â gwallt du wedi ei eillio neu ei docio, llygaid brown, ac acen Gymreig.


Mohammed Ali Ege
Ni ddylai’r cyhoedd nesáu ato ond fe ddylen nhw roi gwybod i’r heddlu yn syth os ydyn nhw’n gwybod lle y mae o.

“Flwyddyn ers marwolaeth Aamir rydyn ni’n cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Aamir sy’n parhau i alaru ar ei ôl,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd, Paul Hurley.

“Os oes gan unrhyw un wybodaeth a heb gysylltu gyda ni am ryw reswm, rydw i’n eu hannog nhw i wneud hynny cyn gynted a bo modd.”

Mae gwobr o £10,000 ar gael am unrhyw wybodaeth newydd sy’n arwain at arestiadau pellach yn achos Aamir.

Mae dau ddyn, 36 a 37 oed, eisoes yn y ddalfa wedi eu cyhuddo o lofruddio Aamir Siddiqi a cheisio llofruddio ei rieni.

Teyrnged

Dywedodd y teulu fod blwyddyn wedi mynd heibio ers marwolaeth Aamir Siddiqi ond ei fod yn teimlo fel petai’r cyfan wedi digwydd ddoe.

“Roedden ni wedi caru Aamir ers diwrnod ei eni ac roedd e wedi ein caru ni’n ôl,” medden nhw.
“Roedd yn codi hwyliau pawb ac roedd yn fraint cael ei nabod.

“Roedd yn berson gonest a dibynadwy oedd yn teimlo’r angerddol dros bobol a’r amgylchedd.

“Roedd ganddo ddyfodol disglair o’i flaen ac yn ymdrech ymlaen at astudio’r gyfraith yng Nghaerdydd.”

Ychwanegodd y teulu eu bod nhw’n diolch i Heddlu De Cymru am eu gwaith caled wrth ymchwilio i farwolaeth Aamir.

“Rydyn ni’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth sy’n ymwneud â llofruddiaeth Aamir i gysylltu â’r heddlu,” medden nhw.