Brynle Williams
Fe fydd yna seibiant yn yr ymgyrch etholiadol heddiw wrth i arweinwyr gwleidyddol fynd i angladd yr Aelod Cynulliad Ceidwadol, Brynle Williams.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n lansio eu maniffesto tan ddydd Mercher er mwyn dangos parch at y ffermwr a’r ymgyrchwr.

Mae’r blaid Geidwadol hefyd yn bwriadu atal yr ymgyrch etholiadol er mwyn talu teyrnged i’r ffermwr o Gilcain.

Fe fu farw Brynle Williams, AC Ceidwadol rhanbarth Gogledd Cymru, yn 62 oed, wrth i dymor y Cynulliad ddod i ben.

Fe fydd ei angladd yn cael ei gynnal am 1pm heddiw yng Nghilcain ger yr Wyddgrug, Sir y Fflint, lle y cafodd ei fagu.

Bydd arweinwyr y prif bleidiau ymysg y galarwyr.

Hanes Brynle

Daeth Brynle Williams i sylw’r cyhoedd yn ystod y protestiadau petrol yn 2000.

Daeth yn Aelod Cynulliad a llefarydd y Ceidwadwyr ar amaeth yn 2003.

Ar ôl ei farwolaeth dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ei fod yn “gymeriad lliwgar ac yn ymgyrchydd gwydn”.

Ychwanegodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron, ei fod yn “gawr o ddyn” ac yn “angerddol iawn”.

Mae’r teulu wedi dweud nad ydyn nhw eisiau blodau ond y gallai galarwyr roi arian tuag at uned ganser Ysbyty Glan Clwyd neu Hosbis Nightingale House.