Côr cymysg o Gastell Newydd Emlyn sydd wedi ennill prif gystadleuaeth gorawl Cymru, Côr Cymru, eleni.

Curodd côr Cywair, o dan arweiniad Islwyn Evans, bedwar o gorau eraill yn y rownd derfynol a ddarlledwyd yn fyw ar S4C neithiwr,  gan gipio’r brif wobr o £5,000 a’r teitl Côr Cymru 2011.

Dyma’r ail waith i’r côr cymysg ennill tlws dwyflynyddol Côr Cymru gan iddyn nhw gipio’r tlws yn 2007 hefyd.

A dyma’r pedwerydd gwaith i Islwyn Evans ennill y gystadleuaeth. Enillodd â Ysgol Gerdd Ceredigion yn 2003, Côr Cywair yn 2007, ac Ysgol Gerdd Ceredigion yn 2009.

Dim ond yn 2005 aeth côr nad oedd yn ei arwain, Serendipity o Gaerdydd, a hi.

Yn ogystal a’r brif wobr enillodd Islwyn Evans, arweinydd tri o’r pum côr yn y rownd derfynol, wobr arweinydd gorau’r gystadleuaeth.

Am y tro cyntaf eleni roedd cyfle i wylwyr ddewis eu hoff gôr nhw drwy bleidlais ffôn ar y noson. Enillydd tlws Gwobr y Gwylwyr oedd y côr merched Cantata.

Y beirniaid eleni oedd Stephen Connolly, cyn aelod o’r grŵp llwyddiannus The King’s Singers, Denes Szabo arweinydd tri o gorau mwyaf llwyddiannus Hwngari, a’r arweinydd byd enwog Carlo Rizzi.

Safon yn uchel

“Yn bendant, mae pobl yn edrych ymlaen at Côr Cymru bob blwyddyn,” meddai Hefin Owen, uwch gynhyrchydd y gyfres.

“Mae teitl Côr Cymru yn eithriadol o bwysig i’w gael gan fod y safon mor uchel, a’r gystadleuaeth yn gref.

“I’r corau sy’n cyrraedd y rownd derfynol, maen nhw eisoes wedi dod i’r brig yn eu categori unigol, boed yn lleisiau merched, meibion, plant, ieuenctid neu gymysg.

“Roedd hi’n noson wych o gystadlu heno a llongyfarchiadau i Cywair am ennill y gystadleuaeth.”

Bydd modd mwynhau uchafbwyntiau’r rownd derfynol ar S4C nos Sadwrn 16 Ebrill am 21:10.