Mae’r heddlu yn galw am lygaid dystion yn dilyn gwrthdrawiad marwol ar yr A541 ger yr Wyddgrug ddoe.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi cael gwybod tua 9.55pm bod Nissan Micra coch wedi taro coeden ger yr Hendre.

Roedd merch ifanc oedd yn teithio yn sedd y teithiwr wedi marw yn y fan a’r lle. Aethpwyd a gyrrwr y car a teithiwr arall i Ysbyty Maelor Wrecsam.

Roedd y ddau wedi dioddef man anafiadau.

Dywedodd yr heddlu fod rhan o’r ffordd wedi ei gau a bod gyrwyr wedi eu dargyfeirio.

Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i beth ddigwyddid wedi galw ar unrhyw un a welodd y ddamwain i ffonio 101 neu 0845 6071001.