Mae’r heddlu wedi arestio ail ddyn mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 48 oed yng Nghasnewydd.

Daethpwyd o hyd i gorff Richard Glyn Carslake mewn fflat ar Stryd Jeddo, Pillgwenlly, ddydd Mercher.

Cafodd dyn 50 o Gasnewydd ei arestio ddoe ar amheuaeth o helpu troseddwr. Arestiwyd dyn 20 oed o Pont-y-pŵl, Torfaen, ar amheuaeth o lofruddio ddydd Iau.

Dywedodd yr heddlu fod archwiliad post-mortem yn dangos fod Richard Glyn Carslake wedi marw o ganlyniad i bwysau ar ei wyneb a’i wddf.

Maen nhw eisiau siarad ag unrhyw un a welodd Richard Glyn Carslake ar neu ar ôl 29 Mawrth.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Gwent ar 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.