Mae chwech o bobol wedi eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a bws ger canol dinas Caerdydd.

Aethpwyd a’r chwech i’r ysbyty, ac mae un wedi ei anafu yn ddifrifol. Roedd pedwar ohonynt o’r car, un yn yrrwr y bws a’r llall yn deithiwr oedrannus.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A470 toc cyn 2pm heddiw. Mae cerbydau eraill yn cael eu dargyfeirio.

Dywedodd yr heddlu fod y ffordd wedi cau yn y ddau gyfeiriad rhwng cyffordd Gabalfa a Column Road. Yn ôl adroddiadau roedd y bws wedi taro blaen tŷ.