Harold Lowe
Bydd trigolion y Bermo yn trafod cynlluniau heno i godi cofeb i un o arwyr trychineb y Titanic bron i 100 mlynedd yn ôl.

Roedd y Swyddog Harold Lowe yn yr unig fad achub aeth yn ôl i chwilio am oroeswyr ar ôl i’r llong daro mynydd iâ a suddo ar 15 Ebrill, 1912.

Llwyddodd Harold Lowe i achub pedwar o bobol o’r dŵr rhewllyd, yn ogystal â theithwyr oedd wedi mynd i drafferthion ar fad achub arall.

Symudodd yn ôl i’r Bermo i fyw cyn marw yn Neganwy, Conwy, yn 1944 yn 61 oed.

Cafodd y cymeriad ei actio gan Ioan Gruffudd yn y ffilm a ryddhawyd yn 1997.

Heno fe fydd rhai o bobol y dref, gan gynnwys ŵyr Harold Lowe, John, sy’n 68 oed, yn trafod cynllun i godi cofeb iddo.

Blwyddyn i ddydd Gwener nesaf fe fydd hi’n 100 mlynedd ers i’r llong suddo wrth deithio o Southampton i Efrog Newydd.

Mae Cyngor y Dref eisoes wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu datgelu cofeb i Howard Lowe yn nociau’r dref bryd hynny.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 7pm yn Theatr y Ddraig, y Bermo.

Bydd Howard Nelson, sylfaenydd Ymddiriedolaeth y Titanic, yn siarad ag fe fydd John Lowe yn dangos cap morol ei dad-cu.

Dylai unrhyw un sydd eisiau mynd ffonio 01341 281 697.